Papur Bro Clonc mewn print unwaith eto

Dyma’r tro cyntaf i rifyn papur ymddangos ers mis Mawrth oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae rhifyn Medi Papur Bro Clonc yn y siopau lleol erbyn hyn, y tro cyntaf i rifyn ar bapur ymddangos ers mis Mawrth oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

Doedd dim modd rhagweld sawl copi o’r papur fyddai’n gwerthu yn ystod y clo mawr a doedd dim modd gofyn i wirfoddolwyr i ddod ynghyd i blygu’r papur na’i ddosbarthu.  Dyma’r tro cyntaf ers sefydlu Papur Bro Clonc yn 1982 i rifynnau print fethu ymddangos.

Cyhoeddwyd rhifynnau digidol ar gyfer misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf sydd dal ar gael i’w lawrlwytho am ddim oddi ar wefan Clonc.  Ers cyhoeddi rhifyn Ebrill gwelwyd bod dros 5,000 o ddarllenwyr wedi ymweld â’r rhifynnau ar y we.

Dymunwn fel swyddogion y papur, ddiolch i bawb am barhau i gefnogi’r papur yn ystod yr amser anodd hwn.  Er na fu llawer o ddigwyddiadau yn lleol oherwydd cyfyngiadau COVID19, cafwyd erthyglau diddorol iawn yn y papurau digidol a diddordeb arbennig mewn hen luniau lleol.

Dymunir diolch hefyd i’r cwmnïoedd sy’n parhau i hysbysebu yn y papur bro.  Mae’ch cefnogaeth chi’n werthfawr iawn a’r gobaith yw bod yr hysbysebion wedi cyrraedd cynulleidfa ehangach gan fod y papur ar y we.  Byddwn yn paratoi rhifyn mawr mis Rhagfyr yn y misoedd nesaf, ac mae’n bosib na fydd gwirfoddolwyr Clonc yn gallu galw gyda chi i gasglu arian hysbysebu, felly cofiwch gysylltu pe hoffech barhau i hysbysebu.

Mae cyhoeddiadau papur mewn sefyllfa fregus yn gyffredinol ac mae swyddogion Papur Bro Clonc yn trafod gyda Bro360 ar hyn o bryd ynglyn â ffordd o werthu copiau digidol yn y dyfodol.  Er i 83% o ddarllenwyr a holwyd mewn arolwg y llynedd fynegi na fyddent yn dymuno prynu copi digidol Clonc, mae’r amgylchiadau presennol yn gyrru cyhoeddiadau i ystyried ffyrdd i addasu.  I’r perwyl hynny, cynhelir cyfarfod arbennig ar Zoom ar yr 17eg o Dachwedd i drafod datblygiadau pellach, a chroeso i unrhyw un ymuno er mwyn cynnig syniadau.

Yn y cyfamser, mwynhewch y rhifyn cyfredol papur.  Mae Clonc ar werth yn y siopau canlynol:

Aeron Booksellers, Aberaeron
Awen Teifi, Aberteifi
Caffi Mark Lane, Llanbed
Cigydd Simon Hall Meats, Llanbed
Co-op, Llambed
Cyfoes, Rhydaman
Eryl Jones, Llambed
Ffab Cymru, Llandysul
Garej Central, Llanwnnen
Garej Checkpoint, Harford
Garej Troedrhiw, Llambed
J H Williams a’i Feibion, Llambed
Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
Premier Siop y Gymuned, Llambed
Siop Nwyddau Caron, Tregaron
Siop y Smotyn Du, Llanbed
Siop y Bont, Llanybydder
Siop y Pentan, Caerfyrddin
Siop y Pethe, Aberystwyth
Swyddfa Bost, Llanybydder
Swyddfa Bost, Felinfach
Swyddfa Bost, Llanllwni
W D Lewis a’i Fab Pumsaint

Gellir hefyd danysgrifio i Bapur Bro Clonc am £17.50 y flwyddyn.  Golyga hynny y byddwch yn derbyn y papur deg gwaith y flwyddyn drwy’r post.  Gallwch drefnu tanysgrifiad fel anrheg i ffrind neu berthynas sy’n byw oddi cartref neu’n gaeth i’r tŷ.  Gallwch lenwi ffurflen archeb banc a geir ar ein gwefan neu dalu drwy fancio ar y we.  Ceir manylion banc ar y ffurflen.