Bro Pedr yn cadw cysylltiad â chartrefi gofal lleol

Disgyblion yn creu fideo arbennig er mwyn cadw cysylltiad â’r henoed adeg Covid-19

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yn sgil Covid-19 mae disgyblion Ysgol Bro Pedr wedi bod yn brysur yn ysgrifennu llythyrau a chreu fideo arbennig er mwyn cadw mewn cysylltiad â phreswylwyr Cartref Gofal Maes y Felin a Chartref Gofal Hafan Deg.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae disgyblion wedi bod yn ymweld â chartrefi gofal yn y gymuned leol. Er hyn oherwydd Covid-19 mae Ysgol Bro Pedr a’r cartrefi gofal wedi gorfod addasu er mwyn cadw mewn cyswllt a’i gilydd.

Eglurodd Mrs Rhian Morris, Pennaeth Blwyddyn 7 fod yr ymweliadau arferol yn gyfle i’r disgyblion gynnal cyngherddau bach a hefyd yn gyfle i breswylwyr y cartrefi fwynhau cwmni’r bobol ifanc.

Yn y fideo mae’r disgyblion yn rhannu eu profiadau nhw o gyfnod y clo mawr, yn canu, llefaru a darllen eu llythyrau i’r henoed.

Gwyliwch y fideo llawn yma:

Dywedodd Mrs Rhian Morris ei bod hi’n teimlo ei bod hi’n bwysig cadw cysylltiad â’r cartrefi gofal yn ystod y cyfnod yma pan mae’r ysgol ynghau a dim modd i bobol ymweld â’r cartrefi.

“Roedd yn bleser rhoi’r fideo at ei gilydd, a’r hyn sy’n arbennig yw ei fod e’n ticio cynifer o focsys o ran datblygu sgiliau o bob math”, meddai.

Ymateb y cartrefi gofal

Preswylwyr Cartref Maes y Felin yn cyd ganu
Preswylwyr Cartref Maes y Felin yn cyd ganu – Llun gan Rhian Morris

Ychwanegodd Mrs Rhian Morris: “Fel arweinydd y prosiect rwyf yn wirioneddol falch gydag ymateb y disgyblion a thrigolion y cartref.”

I ddiolch i’r disgyblion am eu fideo penderfynodd preswylwyr Cartref Maes y Felin ffilmio fideo eu hunain yn cyd ganu o amgylch y piano.

Y gobaith yw bydd y disgyblion yn gallu ymweld â’r cartrefi gofal yn y dyfodol pan fydd hi’n saff i wneud hynny.