Pennaeth cwmni tai newydd yn addo recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg

Bydd Barcud yn gyfrifol am 4,000 o dai yn y gorllewin

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Ar gychwyn yr wythnos hon, daeth y newyddion bod dwy gymdeithas sy’n berchen ar filoedd o dai yn y canolbarth a’r gorllewin wedi uno i greu cwmni Barcud.

Dyma’r tro cyntaf erioed i gymdeithas dai traddodiadol uno â sefydliad trosglwyddo stoc yng Nghymru.

Ac mae Prif Weithredwr cwmni newydd Barcud yn addo recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg i wasanaethu yng ngorllewin Cymru.

Beth yn union yw Barcud?

  • Cwmni newydd yw Barcud sydd yn uno Tai Canolbarth Cymru a Tai Ceredigion.
  • Bydd grŵp Barcud yn berchen ar fwy na 4,000 o gartrefi yng Ngheredigion, Powys, gogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
  • Mae’r grŵp newydd yn cyfuno Gofal a Thrwsio Powys, EOM a’r Gymdeithas Gofal.

Pam uno’r ddwy gymdeithas?

“Mae cymdeithasau bach yn ffeindio hi’n anodd i gael eu llais wedi ei glywed gan Lywodraeth Cymru ac rydan ni’n meddwl bod o’n bwysig,” meddai Steve Jones, Prif Weithredwr Barcud, wrth drafod y rhesymeg dros uno’r ddwy gymdeithas.

“Roedd y ddwy gymdeithas yn debyg iawn o ran be ‘da ni’n trio gwneud yng nghefn gwlad o ran datrys problemau digartrefedd a chefnogi pobl.”

Ychwanegodd bod uno hefyd yn golygu bod modd iddynt rannu eu sgiliau.

Beth sydd yn bwysig i Barcud?

Yn ôl y Prif Weithredwr, mae lles y bobl leol yn un o brif flaenoriaethau’r cwmni:

“Mae ‘na lot o angen am dai am rent gan brynwyr tro cyntaf a phobl leol, sydd yn cael eu prisio allan o’r farchnad” meddai, “yn enwedig yng Ngheredigion mae ‘na broblem hefo Holiday Homes lle maen nhw’n codi prisiau tai yn lleol.

“Rydan ni’n trio helpu prynwyr tro cyntaf a rhoi’r pwyslais ar bobl sydd yn siarad Cymraeg, i’w cadw nhw yn eu cymuned leol.”

Dywedodd y bydd y Pencadlys yn aros yn Llanbed a’u bod yn cadw eu swyddfeydd yn Aberystwyth, Aberteifi ac yn y Drenewydd hefyd.

Yr iaith Gymraeg

Mae sicrhau gwasanaeth dwyieithog yn hollbwysig i’r cwmni, yn ôl y Prif Weithredwr sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ail iaith.

Eglurodd fod 83% o staff Tai Ceredigion yn siaradwyr Cymraeg – ond fod hynny wedi gostwng ar ôl uno’r wythnos hon.

“Mae gennym ni dal 53% o siaradwyr Cymraeg yn y cwmni newydd,” meddai, “ac rydan ni yn mynd i godi hwn trwy bob swydd rydan ni yn mynd i hysbysebu.

“Mi fydd yna bwyslais bod yr iaith yn hanfodol ac ein bod yn cynnig gwasanaeth dwyieithog oherwydd y cymunedau da ni’n gwasanaethu.”

“Mae’n bwysig bod yna gymdeithas dai sydd yn gweithio yng nghefn gwlad, ble mae’r iaith yn lot fwy pwysig, yn cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn a bod ganddo ni staff ac aelodau bwrdd sydd yn cynrychioli’r gymuned leol.”