Penwythnos Dartiau Llambed (O gatre!)

Twrnamaint Rhithwir llwyddiannus a’r gamp yn blodeuo!

Bedwyr Davies
gan Bedwyr Davies
Penwythnos Dartiau Llambed ( O Gatre)

Dros y penwythnos diwethaf dylai’r 5ed Penwythnos Dartiau Llambed wedi bod yng Nghlwb Rygbi Llambed o dan arweiniad Cwmni hybu dartiau o Gwmann ‘Bishop of Bedlam’.

Roedd bobl ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban wedi paratoi i wneud y bererindod flynyddol i Lambed, ond yn anffodus fel popeth arall mae’r Penwythnos Dartiau ar seibiant tan i amodau cyfyngiadau symud Covid 19 gael eu rhyddhau.

Ond ma dartiau wedi bod yn un o’r gweithgareddau hynny sydd wedi blodeuo o dan yr amchylchiadau gyda mwy a mwy o bobl yn chwarae o gatref a chwarae yn erbyn ffrindiau a phobl dieithr o bedwar ban y byd.

Mae’n bosib wrth addasu i ddefnyddio technoleg newydd. Mae chwaraewyr proffesiynol nawr hefyd i’w gweld yn chwarae cystadlaethau yn ddyddiol yn fyw ar wefan Youtube.

Ac addasu wnaeth tîm ‘Bishop of Bedlam’ gan greu Twrnameintiau Rhithwir lle oedd cystadleuwyr yn chware o gartref wrth ddefnyddio cyfrafiadurion i sgorio ar y we a defnyddio ‘webcams’ a ffoniau symudol fel ffordd o wylio a siarad â chwaraewyr eraill.

Cynhaliwyd pedwar Twrnament dros y penwythnos gyda John William Jones o Trefaldwyn, Chwarwr Rhyngwladol i Gymru yn ennill Cystadleuaeth Agored Llambed, Kieran Harris o Bontardawe yn ennill Cystadleath Agored ‘Bishop of Bedlam’, Kian Davies o Ystradgynlais yn ennill y Twrnament Ieuenctid a Leighton Davies yn ennill y Twrnament Iau i aelodau Academi Dartiau Llambed.

Roedd hyn i gyd yn ddi-dal i bawb a wnaeth chwarae ond roedd casglad i elusen Gwasanaeth Iechyd Gwladol a chodwyd dros £100.

Derbyniodd pawb a enillodd wahoddiad i’r Penwythnos Dartiau (fyw) nesaf yn Llambed a chwarae yn yr arddangosfa yn erbyn y Chwaraewyr Proffesyniol Tony O’Shea a Darryl Fitton.