Pobl yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Aeron yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau coronafeirws

Y gyfradd bresennol yng Ngheredigion yw 159.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth (o 1pm, 5 Rhagfyr 2020), sy’n dangos bod y gyfradd yn cynyddu bob dydd.

gan Siwan Richards

Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19 yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Dyffryn Aeron.

 

Dros yr wythnos ddiwethaf, yr ydym wedi gweld dros 35 o achosion bositif yn yr ardal. O waith Tîm Olrhain Cyswllt Ceredigion, gallwn weld sut mae’r feirws wedi lledaenu. Mae’r rhain yn cynnwys pobl yn dod at eu gilydd yn gymdeithasol a lledaenu yn y gweithle. 

Ble bynnag yr ydym a phwy bynnag sydd yn ein cwmni, rhaid inni i gyd fod yn wyliadwrus bob amser a sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau. Bydd cadw pellter cymdeithasol, golchi eich dwylo’n rheolaidd a gwisgo masg yn eich amddiffyn chi a’r rhai o’ch cwmpas. 

Wrth i ni nesáu at y Nadolig, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn osgoi dod at ein gilydd gyda ffrindiau a theulu nad ydynt yn ein cartrefi estynedig. Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni’n eu gweld, ond mae cyfyngu eich cysylltiadau yn hanfodol er mwyn cadw nifer y bobl sydd â’r feirws i lawr. Dyma sut y byddwn yn amddiffyn ein hanwyliaid yn y pen draw.

Bydd Cyngor Sir Ceredigion bob amser yn cymryd y camau angenrheidiol i gadw ein trigolion yn ddiogel a bydd yn cymryd camau pendant pan fo angen. Mae ein Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheoliadau ac wedi cyflwyno sawl hysbysiad dros yr wythnosau diwethaf lle mae angen gwella.

Mae symptomau coronafeirws yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Fodd bynnag, mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi clywed gan sawl achos positif bod ganddynt ychydig o symptomau neu ddim symptomau ar y dechrau. Mae llawer ohonynt yn dweud mai’r arwyddion cyntaf yw pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy’n teimlo’n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.

Rhaid i unrhyw un â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael eich profi. Ni ddylai unrhyw un fynd i’r gwaith na gadael y tŷ os oes ganddynt unrhyw symptomau – ystyriwch a diogelwch gymaint ag y gallwch bawb yn swigen eich aelwyd.

Ond, mae’n rhaid i chi chwarae eich rhan. Byddwch yn wyliadwrus a chofiwch ddilyn y canllawiau:

• Cadwch bellter cymdeithasol o 2m oddi wrth ei gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;

• Golchwch eich dwylo’n rheolaidd;

• Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;

• Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.

• Gall aelwydydd ffurfio ‘swigen’ gyda’i gilydd – ni ellir cyfnewid, newid na hymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;

• Caniateir i bobl gyfarfod ag eraill tu allan i’r swigen honno mewn lleoliad rheoledig, fel tafarn neu fwyty (tan 6pm) lle mae protocolau diogelwch llym ar waith. Ond, pedwar person yw nifer y bobl sy’n gallu cyfarfod a hyd yn oed wedyn dylid cadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo modd.

• Gwisgwch fasg mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;

• Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunanynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref yn unig i gael prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich. Drwy wneud hyn, byddwn yn diogelu iechyd a lles ein pobl fwyaf bregus, gan gynnwys y gwasanaethau gofal ar gyfer yr henoed a’r sawl y mae eu cyflyrau meddygol yn peri eu bod yn arbennig o agored i niwed gan yr haint COVID-19. Byddwn yn diogelu’r ddarpariaeth addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. Byddwn yn galluogi’r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.