Teulu a ffrindiau’n rhoi ‘parti priodas’ arbennig i Elin Lifestyle ac Aled

Roedd Elin Haf Jones ac Aled Vaughan-Jones i fod i briodi ganol mis Mai.

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Elin ac Aled ar beth fyddai wedi bod yn ddiwrnod eu priodas

Oherwydd argyfwng y coronafeirws bu rhaid i Elin Haf Jones, neu Elin Lifestyle i’w ffrindiau, a’i darpar ŵr Aled Vaughan-Jones ohirio eu priodas tan fis Mai’r flwyddyn nesaf.

Fel y rhan fwyaf o bobol mae’r ddau wedi gorfod addasu ei ffordd o fyw. Mae Elin bellach yn ffilmio eitemau Cyw i S4C o’i hystafell fyw, tra bod Aled yn parhau i weithio ar y fferm odro deuluol.

Ond roedd y ddau yn benderfynol o gael hoe o’r gwaith ar beth fyddai wedi bod yn ddiwrnod eu priodas.

Eglurodd Elin, “gathon ni’n dau ddiwrnod bant o’r gwaith a chynnal parti priodas dros Zoom gyda’r morwynion priodas, gweision priodas a theulu agos.”

Mewn cyfweliad gyda Clonc360 soniodd Elin fod teulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi mynd ati i gyd-ganu a chreu fideo arbennig ar eu cyfer mewn parti ar Zoom.

“Er na gathom ni ein dawns gyntaf mi oedd hi’n noson arbennig – yng nghanol y sgwrs dros y we dyma’r morwynion priodas yn dweud ei bod nhw wedi paratoi araith i ni, ac allan o unman dyma’r fideo ma’n ymddangos ar y sgrin!

“O’n i’n llefain a chwerthin bob yn ail. Ni di gwylio’r fideo sawl gwaith ers ni ac yn gweld rhywbeth gwahanol bob tro.

“Mae pawb wedi bod mor garedig yn gyrru negeseuon ac anrhegion i ni.”

Iechyd teulu a ffrindiau’n dod gyntaf

Treuliodd Elin sy’n wreiddiol o Faesycrugiau ger Llanybydder fisoedd yn trefnu’r briodas oedd i fod i gael ei chynnal ar fferm y teulu, ond mae’n egluro nad oedd dewis ond gohirio ar ôl i’r Eglwys yng Nghymru gyhoeddi fis Mawrth na fyddai modd cynnal priodasau oherwydd y coronafeirws.

“Mi oedd hi’n dorcalonnus gorfod gohirio’r briodas, ond ni’n gwybod mai dyna oedd y penderfyniad iawn.

“Mae iechyd teulu a ffrindiau yn dod gyntaf, ac nid ein lle ni oedd rhoi pwysau ar aelodau hyn o’r teulu i orfod gwneud y dewis i fynychu ai peidio.”

Dyddiau gwell i ddod

I Elin ac Aled, mae’r gobaith y cawn nhw briodi fis Mai’r flwyddyn nesaf yn gysur yn ystod y cyfnod cloi.

“Mae pawb wedi eu heffeithio mewn rhyw ffordd. Wrth gwrs mae gohirio’r briodas yn siom i ni, ond mewn gwirionedd ry’n ni’n lwcus iawn.

“Ac mae’n bwysig rhannu’r neges bwysig yna. Oes, mae dyddiau gwell i ddod.”