Y prisau’n dal i godi ym Mart Llanybydder

Ansawdd y Da Stôr heddiw o’r safon uchaf.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Cofrestrwyd 350 o dda stôr o ffermydd lleol ar gyfer Mart Llanybydder heddiw gyda’r prisau’n dal i godi.  Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf.

Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,425 o eiddo Mr Bowen, Pwllglas, Llanllwni a’r anner orau o eiddo Mr Jenkins, Brohedydd, Pennant.  Gwerthwyd llawer o eidonau am dros £1,000 ac roedd cyfartaledd eidonau heddiw yn £964 gyda chyfartaledd aneiri yn £913.

Dywedodd Mark Evans yr arwerthwr “Am ddiwrnod llwyddiannus!  Dw i ddim wedi gwerthu eidon am bris mor uchel â £1,425 eiroed o’r blaen.”

Dymuna Cwmni Evans Bros ddiolch i’r holl brynwyr a’r gwerthwyr am eu presenoldeb.

Mae 70 wedi cofrestru’n barod ar gyfer y Mart ar y 8fed o Awst, a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.