Profion ar gyfer pobl â symptomau COVID-19 ar gael i’w harchebu yn Llanbedr Pont Steffan.

Bydd cyfleuster profi gyrru drwodd dros dro yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Pont Steffan, yn darparu profion rhwng 9.30am a 3.30pm o heddiw (10 Rhagfyr 2020) i bobl leol sydd â symptomau.

gan Siwan Richards

Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 – peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu newid neu golled i ymdeimlad o arogl; dylech fynd adref, archebu prawf a gadael cartref ar gyfer eich prawf yn unig. 

Gallwch archebu prawf trwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm, neu ar-lein. Gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119.

Dim ond i bobl sydd wedi archebu trwy borth archebu’r DU y rhoddir profion ac ni ddylech fynychu heb apwyntiad.

Os cewch ganlyniad negyddol, gallwch adael gartref eto, ac os yw’n positif dylech aros gartref a dilyn y cyngor a roddir i chi a’ch teulu estynedig neu aelodau eraill o’r cartref.

Ceir mwy o wybodaeth gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yma.