Mae lefel achosion COVID-19 yng Ngheredigion yn parhau i godi.
Dyma’r lefel uchaf erioed yng Ngheredigion ers dechrau’r pandemig. Rydym yn pryderu’n arbennig am lefel y cynnydd yn ardal Aberaeron a Llanrhystud, sydd bellach wedi cyrraedd 507.3 fesul 100,000 o’r boblogaeth ac ardal Llanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad sy’n parhau’n uchel ar 388.2 fesul 100,000 o’r boblogaeth (7 diwrnod rhwng 2 a 8 Rhagfyr).
Nid oes angen iddo fod fel hyn. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn dilyn y canllawiau fel y gallwn gadw ein teuluoedd a’n ffrindiau’n ddiogel ac y gallwn gwrdd ag anwyliaid dros y Nadolig yn ddiogel. Gofynnwn i chi nawr gyfyngu eich cyswllt â phobl y tu allan i’ch cartref.
I chwarae eich rhan ac i gadw’ch gilydd yn ddiogel, cofiwch wneud y canlynol:
Cadw pellter cymdeithasol o 2m oddi wrth eich gilydd pan fyddwch allan – dan do ac yn yr awyr agored;
Golchi eich dwylo’n rheolaidd;
Cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
Gweithio o gartref lle bynnag y bo’n bosibl.
Gall aelwydydd ffurfio ‘swigen’ gyda’i gilydd – ni ellir cyfnewid, newid nac ymestyn trefniant swigen ymhellach nag un aelwyd;
Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus;
Os oes gennych unrhyw symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn, rhaid i chi hunan-ynysu gartref a threfnu prawf ar unwaith, gan adael eich cartref i gael prawf yn unig. Mae angen archebu prawf ar-lein neu drwy ffonio 119.
Byddwch yn ymwybodol o symptomau COVID-19. Mae symptomau COVID-19 yn cynnwys tymheredd uchel, peswch cyson newydd a phrofi colled neu newid o ran synnwyr arogleuo neu synnwyr blasu. Ond hefyd, mae’r symptomau cynnar yn gallu cynnwys pen tost, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer. Felly rydym yn annog pobl sy’n teimlo’n sâl i fod yn ofalus iawn, yn enwedig i olchi dwylo a chadw pellter, ac os oes unrhyw amheuaeth, archebwch brawf.
Yr anrheg orau y Nadolig hwn yw Nadolig heb COVID-19. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau y gallwn gyflawni hyn. Beth am wneud i’r pythefnos nesaf gyfrif?
Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.