Diolch i Alun Jones, Parc-y-rhos am fynd ati i dynnu lluniau rhywogaethau hyfryd ei filltir sgwâr ar ddeffro’r Gwanwyn ac am greu pos hyfryd yn rhifyn Mai Papur Bro Clonc.
Ond faint ohonynt y gallwch chi eu henwi?
Yn ei gerdd ‘Gwyrddni’, mae Grahame Davies yn myfyrio am enwau rhywogaethau:
Mae newydd fy nharo.
‘Dwi ddim yn eu deall, y geiriau cyfarwydd hyn:
masarnen, banadl, ysgawen,
briallu Mai, cerddinen,
a chymaint o rai tebyg y deuwn ar eu traws
yng ngerddi cydwladwyr.
Peidiwch â ‘nghamddeall;
nid problem iaith yw hon;
mi wn mai planhigion neu goed yw’r rhain,
darllenais y geiriau droeon
mewn cerdd neu ysgrif.
Ond dyna’r pwynt:
eu darllen yn unig.
A welais gerddinen erioed?
‘Dwn i ddim.
A ydw i wedi arogli banadl?
O bosib;
ond ni wn i sut mae’n edrych hyd yn oed.
Neu gyffwrdd â rhisgl masarnen?
Ni fyddwn yn ’nabod un pe bai’n cwympo arnaf.
Tybed faint ohonoch chi, fel fi sy’n teimlo fel hyn? Mae cloddiau’r ardal yn byrstio â lliw yn yr wythnosau diwethaf ac arafwch bywyd yn ystod y cloi mawr yn golygu ein bod ni’n sylwi mwy ar y byd o’n cwmpas ac ar fyd natur. Ond ydyn ni’n gallu enwi planhigion gwyllt ein cynefin?
Pwy fyddai’n gallu adnabod Clustog y Coed neu Ysgub y Wrach? Enwau pert a’r rhywogaethau yr un mor bert.
Cyhoeddir 16 llun rhywogaeth leol yn rhifyn cyfredol Clonc a gellir ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar wefan y papur bro. Faint ydych chi’n gallu enwi? Rhowch gynnig arni. Ceir yr atebion wyneb i waered ar waelod y dudalen.