Record o 820 o dda ym Mart Llanybydder

Y prisau uchaf am yr eidon gorau a’r anner orau yn mynd i ffermwyr Pentrebach, Llanbed.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd 820 o dda stôr o ffermydd lleol ym Mart Llanybydder ddoe.  Roedd ansawdd y gwartheg o’r safon uchaf a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.

Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,480 a’r anner orau am £1,380 o eiddo Evans a Mills, Ffynnonfair, Pentrebach.  Gwerthwyd y fuwch orau am £1,100 o eiddo Harries, Meillionen, Llanddeiniol a’r tarw gorau am £1,650 o eiddo Thomas, Amnodd, Aberaeron.  Y pris gorau wedyn am fuwch a llo oedd £1,700 o eiddo Roberts, Cilwr Uchaf, Talyllychau.

Dywedodd Mark Evans yr arwerthwr “Roedd cael 820 o dda yn Llanybydder mewn un diwrnod yn record newydd.”

Dymuna Evans Bros ddiolch i’r prynwyr a’r gwerthwyr am eu cefnogaeth heddiw gan gynnwys y prynwyr a’r gwerthwyr newydd.  Diolch arbennig hefyd i staff a weithiodd mor galed i sicrhau diwrnod llwyddiannus iawn.

Cynhelir y Mart Da Stor nesaf ar y 10fed Hydref, a gofynnir i bawb arall sydd â diddordeb i gofrestru’n gynnar.

Bustych
£1480 i Evans & Mills, Ffynnonfair
£1410 £1210 i A N Bellamy, Hendy
£1340 £1200 i T I L Davies, Gellicefnrhos
£1280 £1270 £1230 £1120 £1100 i E E Davies, Cwmbychan
£1260 £1120 i E T Jenkins, Brohedydd
£1230 £1210 £1170 i Rhydsais Cyf
£1200 i D Davies, Maescastell
£1190 £1150 i Messrs Rees, Cefngwyddil
£1180 i J D Crimes, Gafryw
£1175 i G W Davies, Tyngrug Uchaf
£1150 i C T Jones, Pantygwartheg
£1140 i A J Jones a’i feibion, Derigoch
£1140 i O D Russell a’i Gwmni, Coedeiddig Fawr
£1140 i D G Lewis, Cefncoed Mawr
£1140 i Deulu Roberts, Brynmanalog
£1140 i E D W Evans, Esgermaen
£1135 i E D Davies & Co, Cothi Vale
£1130 £1120 i E Rees, Caeronnen
£1130 i S M Griffiths, Blaenpant
£1120 i H M Lewis a phartneriaid, Foelallt
£1120 £1110 i B J Lloyd, Pontmarchog
£1120 i G Davies, Maescastell
£1110 £1100 i D W Hughes, Penrallt
£1100 i A J Powell, Gwarcwm
£1100 i A E Lloyd Lewis a’i fab, Tyddyn Du
Eraill i £1095

Heffrod:

£1380 £1190 i Evans & Mills, Ffynnonfair
£1290 i Messrs Thomas, Brynmeillion
£1210 £1080 i A N Bellamy, Hendy
£1200 £1170 i H M Lewis & Partners, Foelallt
£1200 £1170 £1110 i T G Davies, Goitre Isaf
£1180 £1160 £1130 £1090 £1070 i Rhydsais Cyf
£1150 £1075 £1070 i G J Evans, 4 Bro Dyfriog
£1140 i E E Davies, Cwmbychan
£1130 i Messrs Jones, Pantycelyn
£1125 i H R Thomas, Login
£1115 i E D Davies & Co, Cothi Vale
£1100 £1060 i Deulu Roberts, Brynmanalog
£1100 i Messrs Rees, Cefngwyddil
£1100 i J E James, Pantyrodyn
£1090 i B J Lloyd, Pontmarchog
£1090 i D W Hughes, Penrallt
£1080 i Fferm Aberceiliog
£1070 i R Last, Wernddu
£1050 £1050 i S M Griffiths, Blaenpant
£1050 i E Rees, Caeronnen
Eraill i £1045

Buchod Barren:
£1100 i P Harries, Meillionen
£1040 £735 i Messrs Rees, Cefngwyddil
£940 i A N Bellamy, Hendy
£935 i E Lewis, Glandulais Isaf
£900 £700 i R F Abel, Galltyllan
£890 i FfermAberceiliog
£875 £780 i Messrs Jones, Pantycelyn
£835 £790 i M E Wakelin, Cwm
Eraill i £650

Teirw:
£1650 £1400 £1350 £1000 i S C Thomas, Amnodd
£1080 i Messrs Jones, Pantycelyn
£1040 i J Lewis Jones & Sons, Pantgwyn

Da Sugno a Lloi:

£1700 £1300 i D E Roberts, Cilwr Uchaf
£1580 i D W K Davies, Rhydyfodrwydd
£1500 £1450 i Messrs Davies, Waunllanau Isaf
£1380 i Llwyn Farm Cyf
£1220 i J M M Harries, Cwmdwfn Uchaf
£1200 i G Evans, Cilgwyn Uchaf
Eraill i £1120