#AtgofGen Rhagor o ganlyniadau Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

Canlyniadau Llenyddol a Chelf a Chrefft.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddwyd Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’r cystadlaethau llenyddiaeth yn dilyn Seremoni’r Gadair ar Ddydd Iau yn Eisteddfod Llanbed.

Dyma weddill y canlyniadau:

Barddoniaeth: Englyn: T Arfon Williams, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd; Englyn ffraeth: John Davies, Caerfyrddin; Hir a Thoddaid: Emrys Edwards, Caernarfon; Cywydd: Emrys Edwards, Caernarfon; Soned: O T Evans, Aberystwyth; Cerdd mewn Tafodiaith: W R Evans, Llanelli; Cylch o Gerddi Vers Libre: Atal y Wobr; Telyneg: Nia Wyn Jones, Rhuthun; Casgliad o Gerddi Ysgafn Gwreiddiol: Ann Tegwyn Hughes, Wrecsam ac Iorwerth H Lloyd, Dolgellau; Trosiad i Farddoniaeth Gymraeg: Tegwyn Harris, Exeter; Blodeugerdd o Farddoniaeth Awduron Cyfoes: Atal y Wobr.

Rhyddiaith: Gwobr Beatrice Grenfell am draethawd: Atal y Wobr; Gwobr Goffa Daniel Owen: Richard Cyril Hughes, Llanfairpwll; Antholeg Gymraeg: Anne Till, Talybont; Y Celtiaid: Ifor Afan Owen. Yr Eglwys Newydd, Caerdydd; Stori Fêr: John Gruffydd Jones, Abergele a Grace Roberts, Nefyn; Stori Fer Hir: John Owain Jones, Cilâ, Abertawe; Sgwrs rhwng Aelod Seneddol a’r Diafol: Robert John Evans, Pandy Tudur, Llanrwst; Ysgrif: H Meurig Evans, Pontlliw; Adolygiad: Vaughan Hughes, Llangefni; Portreado Feddyg neu Filfeddyg yng Nghymru: W R Jones, Aberteifi; Adolygiad i gystadleuwyr dan 19: Buddug Angharad Griffith, Llanfachreth; Stori Fer Ddychmygol i gystadleuwyr da 25: Elen Davies, Llanfihangel-y-creuddyn; Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa: Irma Hughes de Jones, Gaiman; Ffantasi: Geraint Llwyd Owain, Rhuthun; Casgliad o enwau pyllau a rhydau: Atal y Wobr; Llyfr Anrheg Gwreiddiol: John Pinion Jones, Porthaethwy; Astudiaeth Feirniadol: Delyth Ann George, Cefneithin ac Eigra Lewis Roberts, Dolwyddelan; Traethawd Dylanwad y Plas: E H Griffiths, Rhyl; Traethawd Diwinyddiaeth Rhyddhad: Atal y Wobr; Crefftau a mân ddiwydiannau unrhyw ardal yng Nghymru: Atal y Wobr.

Adran Comisiynau’r Eisteddfod: Cychwyn Cyfrol: Richard Lewis, Llanfarian; Stori Blwyddyn: J Cyril Hughes, Aberystwyth.

Adran Drama: Drama Fer: Maldwyn Parry, Yr Wyddgrug; Drama Fer yn addas i’w chyflwyno gan gwmni o ferched: Maldwyn Parry, Yr Wyddgrug; Cyflwyniad Dramatig: Atal y Wobr; Drama fer ar gyfer plant 11-15: Melfyn R Williams, Llanuwchllyn; Drama fer ar gyfer ieuenctid: Atal y Wobr; Comedi neu Ffars: Edgar Jones, Llanfachreth; Sgript Ddychanol ar ffurf rifíw: Atal y Wobr; Llyfryn y Sgetsus: Ieuan Parry, Pen-y-groes, Gwynedd; Trosi Drama Hir: Llifon Jones, Llandrillo yn Rhos; Trosi Drama Hir Saesneg: Stephen W Stephens, Maesybont, Llanelli.

Technegol: Llunio Llyfr Technegol: Gwen Pritchard Jones, Llanwnda.

Ffilm: Sgript Ffilm Ddramatig: Iestyn Roberts, Pwllheli.

Adran Cerdd Dant: Cyfansoddi Alaw: Alan Wyn Jones, Aberystwyth.

Adran Bedlam: Cân Roc: Adrian Jones, Rhydaman; Cân Serch: Adrian Jones, Rhydaman.

Cyfansoddi a Pharatoi Deunydd ar gyfer Dysgwyr: Llyfr Taith trwy Gymru: Byron Howells, Bryngwran; Drama fer: Jackie Taylor, Rhydypennau; Paratoi casgliad o weithgareddau a defnyddiau: Myra Phillips. Wrecsam.

Cystadlaethau i Ddysgwyr: Cyfres o chwech o sgyrsiau: Mair E Insull, Cross Inn, Llandysul; Dyddiadur Wlpan: Winifred Elizabeth Harries, Parc y Rhath, Caerdydd; Cywaith Grŵp: Dosbarth Dysgwyr Cymraeg Y Bala; Cywaith Casét: Nina Ashman, Barbara Vaterlaus, Kenneth Green a Wilfred Hughes, Tal-y-cafn, Gwynedd.

Adran Gerddoriaeth: Gwaith ar gyfer Cerddorfa Ieuenctid: Violeta Dinescu, Yr Almaen; Unawd ar gyfer unrhyw lais: Atal y Wobr; Casgliad o drefniadau o Alawon: B Hugh Gwynne, Cricieth; Casgliad o chwech o emyn-donau gwreiddiol: W Tudor Jones, Rhosllannerchrugog; Gwaith ar gyfer Grŵp Siambr: Violeta Dinescu, Yr Almaen; Trefniant o ddwy Alaw Werin gyferbyniol: Llifon Hughes-Jones, Rosebery Avenue, Llundain; Emyn-dôn: J Haydn Phillips, Aber-fan; Llunio Llawlyfr: Catrin Terry Rowlands, Penpedair-heol, Hengoed.

Adran Alawon Gwerin: Trefniant o Dair Alaw Werin: Llifon Hughes-Jones, Rosebery Avenue, Llundain.

Adran Dawnsio Gwerin: Cyfansoddi Dawns: G Idwal Williams, Llanrug.

Adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Llyfryn o weithgareddau mathemategol: Atal y Wobr; Tair Erthygl: D Gwyn Jones, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd; Dwy Erthygl: Huw Edwards, Caerfyrddin.

Yn ei ragair i Lyfryn Arddangosfa Celf a Chrefft dywedodd Haydn Richards Cadeirydd y Pwyllgor:

“Bu’r ymateb ym mhob adran yn foddhaol a safon y cystadlu yn rhai adrannau o’r radd flaenaf, yn enwedig yn adran y Gelfyddyd Gain. Derbyniwyd tua 600 o weithiau i’r gystadleuaeth arbennig yma.”

Dyma ganlyniadau Adran Celf a Chrefft:

Pensaernïaeth: Y Fedal Aur am Bensaernïaeth: Partneriaeth Bowen Dann Davies, Bae Colwyn; Cystadleuaeth Ail-ddatblygu safle’r Mart yn Llanbed: Peter T Davies, Tregaron.

Celfyddyd Gain: Cystadleuaeth Ddarlunio y Cyngor Llyfrau: Sian Owen, Cricieth; Cystadleuaeth Gartŵn: Elwyn Ioan, Aberystwyth; Ysgoloriaeth yr Eisteddfod Cynllun Crefft a Thechnoleg: Leslie Roberts, Ysgol Uwchradd Cei Connah a Gareth Richings, Ysgol Gyfun y Bechgyn, Y Barri; Celf a Chynllun: Elizabeth Alison Griffiths, Ysgol Gyfun Ddwyieithog Ystalyfera; Gwaith Turnio: John Teifion Williams, Llandysul; Gwaith Turnio dan 22: Einion Theo Davies, Glynceiriog; Gwaith Coed, Gwaith Llaw: G Mitchell, Aberystwyth; Gwaith Llaw dan 22: Dafydd Huw James, Cwmllynfell; Cerfio: Emyr B Hughes, Plaistow, Llundain; Crefftiau Cefn Gwlad: Gwilym C Jones, Ffostrasol; Gwaith Metal: David Price, Talsarn, Llanbed; Gwaith Llenfetel neu Fetel Curiedig: Trevor E Hirons, Maesycrugiau, Pencader; Peirianneg: Elfyn Roberts, Llwyngwril; Peirianneg dan 22: Leslie Joseph, Ysgol Gyfun Hawthorn, Pontypridd; Crochenwaith: Geoff Bond, Llanafan, Aberystwyth; Ffasiwn gwisgo yn y dydd: Anwen Gwyndaf, Betws-y-coed; Ffasiwn gwisgo yn y nos: Neb yn deilwng; Brodwaith tri dimensiwn: Neb yn deilwng; Brodwaith panel mur addurniadol: Neb yn deilwng; Gwaith Lledr: Neb yn deilwng; Crefftau Cyffredinol siercyn/gwasgod: Neb yn deilwng; Crefftau Cyffredinol dwy ddoli neu byped: Myfanwy Morris, Porthmadog.

Ffotograffiaeth: Du a Gwyn: Sue Packer, Tintern, Gwent; Print Lliw: Neb yn deilwng; Tryloywder Lliw: Neb yn deilwng; Dilyniant Tâp/Sleidiau: Neb yn deilwng; Cystadleuaeth i Glybiau Ffotograffiaeth yng Nghymru: Neb yn deilwng; Cystadleuaeth i Ieuenctid, hyd at 18 oed: Joanne Rachel Salisbury, Prestatyn; Fideo: Neb yn deilwng; Ffilm neu Gartŵn: Tudur Aled, Llanelwy.

Ysgolion ac Ieuenctid: Dan 8: Deina Davies a Nia Lewis, Ysgol y Dderi a Catrin Bellamy, Ysgol Gynradd Llanybydder; 8-12: Ann Eleri Evans, Ysgol y Dderi; 11-15: Neil Binfield, Ysgol Syr Hugh Owen; 15-18: Bart Hallet, Ysgol Uwchradd Tregaron; Crochenwaith: Andrew Trimby, Ysgol Gyfun Fairwater, Cwmbrân.