Rhaid mynd mas i ganol y bobl a bod yn rhan o’r gymuned

Cyfweliad â Goronwy Evans ar ei anrhydeddu â’r MBE am ei waith elusennol a’i gyfraniad i’r gymuned.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cyhoeddwyd heddiw yn anrhydeddau blwyddyn newydd y Frenhines bod y Parchedig Goronwy Evans, Llanbed yn mynd i gael ei anrhydeddu â’r MBE.

Mewn ymateb ar facebook, cafwyd nifer o negeseuon yn ei longyfarch a’r hyn oedd yn gyffredin yn y negeseuon oedd bod pawb yn credu ei fod yn llawn haeddu’r anrhydedd.

Pwysleisia Goronwy fod yr anrhydedd hon i Beti ei wraig yn ogystal a phawb a fu’n rhan o bwyllgorau codi arian dros y blynyddoedd ac i bawb a gyfrannodd mor hael.  Ymhlith yr ymgyrchoedd codi arian y bu Goronwy a Beti yn rhan flaenllaw ohonynt oedd Plant Mewn Angen.

Wrth ei holi heddiw, dywedodd Goronwy “Wi’n perthyn i’r Undodiaid a ffordd o fyw yw Undodiaeth.  Rhaid mynd mas i ganol y bobl a bod yn rhan o’r gymuned.”

Bu Goronwy yn weinidog yng Nghapel Brondeifi, Llanbed am dros hanner canrif, ac eleni am y tro cyntaf yng nghanol pandemig bu’n rhannu ei fyfyrdodau ar facebook.  “Roedd hynny yn deimlad hyfryd,” meddai “wi’n gallu cael yr hyn wi am drosto i’r bobl a chadw cysylltiad, a hwythau’n ymateb.”

Un o gyfraniadau mwyaf Goronwy oedd ei waith fel ysgrifennydd Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbed dros y blynyddoedd.

Eleni hefyd y cyhoeddodd Goronwy lyfr newydd am y crwydriaid “Ar Grwydir Eto” ac er gwaethaf y clo mawr, dywedodd fod y llyfr wedi gwerthu’n dda.

Bu Nadolig eleni yn wahanol iawn i Goronwy a Beti fel pawb arall.  Dywedodd Goronwy “Nôl i’r hen arfer o Nadoligau, dim ond ni’n dau, ond wedi cael facetime gyda’r teulu.”

Gwrandewch ar gyfweliad arbennig Clonc360, a llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonyn nhw.