Rheolwr Y Talbot yn ateb cwestiynau Clonc

Kelly Jones o Langybi yw testun colofn ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc mis Hydref.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Kelly Jones o Langybi sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ rhifyn Hydref Papur Bro Clonc.

Mae Kelly yn rheolwr Y Talbot, Tregaron a’r peth gorau am ei swydd yw ei chydweithwyr.  Ar y llaw arall, y peth gwaethaf am ei swydd yw gorfod codi am 6.30 y bore.

Petai’n sownd ar ynys anghysbell byddai’n dymuno gael cwmni ei chariad Rhys “byddai rywsut yn troi unrhyw sefyllfa yn ddiwrnod doniol a chofiadwy.”

Hoff atgof plentynod i Kelly yw ei mam-gu yn cerdded i’r ysgol i’w chasglu a mynd i’r parc i gael hufen iâ o siop Llangybi.

Y lleoliad mwyaf annisgwyl iddi ddihuno yn y bore oedd ar lawr Canton Kitchen.  Beth oedd y stori tu ôl i hynny tybed?

Pryd lefodd hi ddiwethaf?  Beth oedd yr eiliad a newidiodd ei bywyd? Ar beth y gwnaeth hi orwario arno fwyaf?  Gallwch ddarganfod hyn a mwy yn rhifyn cyfredol Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol.