Rhys yn mynd am ddêt ar raglen deledu

Cwrdd â merch o Abertawe a dangos ei datŵ ar “First Dates” ar Sianel Pedwar.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Nos Iau ddiwethaf gwelwyd gŵr ifanc lleol yn serennu ar un o brif raglenni Sianel Pedwar.  Rhys Lewis o Lanbed oedd prif ffocws rhaglen gyntaf cyfres newydd “First Dates” sydd ar gael i’w hail wylio ar y we.

Ffilmiwyd y rhaglen yn Llundain dwy flynedd yn ôl, ac ynddi mae Rhys yn cwrdd â Nikita, sef gweithwraig Harddwch o Abertawe.

Dywedodd Rhys wrth Clonc360 “Edrychodd y producers etc ar ôl fi yn spot on, so on i’n teimlo’n eitha teidi a relaxed yn y pre filmings a wedyn nerfus trwy’r dêt i fod yn onest. Ond y mwya yfes i y well teimles i!”

Llwyddodd Rhys i fagu perthynas dda ar sgrîn â Nikita, er iddo ddangos tatŵ ar ran amheus o’i gorff.  Cyfaddefodd nad oedd wedi mynd ar lawer o ddêts a’i fod yn dueddol o ddweud pethau digon dadleuol ar adegau.

Er ei fod yn wreiddiol o bentref Cribyn, rhoddodd Lanbed ar y map a chyfeiriodd ar y rhaglen ei fod yn fecanig yn Llanybydder.  Doedd Nikita ddim yn deall ble’r oedd hynny.

Ychwanegodd Rhys “Pan odd y bois a fi’n byw da’n gilydd yn Llambed un nosweth jyst deceidon ni i seino fi lan am lwyth o raglenni.  A mishoedd ar ôl hynny delodd First Dates nôl ata i ar ddydd Mercher. Erbyn dydd Sadwrn on i’n trafeili i Lunden!”

Bu Rhys yn ateb cwestiynau Papur Bro Clonc nôl ym mis Mawrth 2013 ar gyfer colofn “Cadwyn Cyfrinachau”.  Dyma i chi flâs o rai o’i atebion:

Y peth mwyaf rhamantus a wnaeth rhywun i ti erioed? Sneb wedi gwneud llawer rhamantus i fi achos maen nhw’n gwybod gewn nhw dim byd nôl.

Y peth gorau am yr ardal hon?  Nosweithiau mas gyda’r bois.

Y peth gwaethaf am yr ardal hon?  Dim hanner digon o dalent.

Sut fyddet ti’n gwario £10,000 mewn awr?
Hala’r haf mas yn Ibiza gyda’r bois i gyd, all expenses paid.

Beth fyddet yn ei wneud pe na baet yn gwneud y gwaith presennol? Physio i dîm pêl-foli menywod Sweden.

Mae Rhys yn gweithio i Harry James yn Llanybydder erbyn hyn. Ni ddatblygodd ei berthynas â Nikita er i’r rhaglen roi’r argraff bod dyfodol iddynt.

Mae Rhys am ddatgan ei fod dal yn sengl.  Efallai y daw’r erthygl hon ar wefan Clonc360 i’r adwy.  Beth chi’n feddwl ferched?