Rhythwyn wedi codi dros £50,000

“Rwy’n ffodus fy mod i mewn iechyd eithaf da, yn weddol gryf ac rwy’n bwyta fel ceffyl”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Elusennau Iechyd Hywel Dda

Wrth nodi ei ben-blwydd yn 91 fis Ebrill penderfynodd Rhythwyn Evans o Silian gerdded o amgylch ei gartref 91 o weithiau, ac mae bellach wedi codi dros £50,000 tuag at Apêl Covid-19 Hywel Dda.

“Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Rhythwyn Evans wedi codi £51,300 i staff GIG Hywel Dda drwy gerdded o amgylch ei gartref 91 o weithiau”, meddai llefarydd ar ran Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Roedd Rhythwyn yn awyddus i gefnogi ei fwrdd iechyd lleol ac “fel arwydd o ddiolch am waith arbennig y gweithwyr o fewn y maes” gosododd darged o £500 iddo’i hun.

Ond ar ôl cael sylw o bedwar ban byd mae bellach wedi hen basio’r targed hwnnw, ac mae Rhythwyn a’i wraig Gwyneth wedi diolch i bawb am eu haelioni.

‘Bwyta fel ceffyl’

“Ni allaf gredu faint sydd wedi’i godi. Mae’n hollol anhygoel”, meddai Rhythwyn Evans.

“Rwy’n ffodus fy mod i mewn iechyd eithaf da, yn weddol gryf ac rwy’n bwyta fel ceffyl, felly roeddwn yn gallu mynd o amgylch y byngalo 91 o weithiau heb unrhyw broblemau ar fy mhen-blwydd.”

“Cymerais fy amser a’i wneud fesul cam, gan ddechrau am saith y bore.

“Cefais fy ysbrydoli gan ymdrechion Syr Tom Moore ac roeddwn am ddiolch i’r GIG lleol am bopeth maen nhw’n gwneud.

“Mae’r gweithwyr wedi bod trwy gymaint yn ystod y misoedd diwethaf.”

Apêl Covid-19 Hywel Dda

Ym mis Mawrth lansiwyd Apêl Covid-19 Hywel Dda mewn ymateb i’r ceisiadau roedd y bwrdd iechyd wedi derbyn gan y cyhoedd.

“Mae’r apêl wedi galluogi ein cymunedau i godi arian a chefnogi staff a gwirfoddolwyr y GIG sydd wedi gweithio’n ddiflino i ofalu am ein cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro”, eglurodd llefarydd ar ran Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Erbyn i’r apêl gau ddiwedd fis Mehefin roedd dros £100,000 wedi ei godi.

Ychwanegodd y llefarydd bydd apêl newydd ‘Diolch i’r GIG’ yn cael ei lansio yn fuan.