Sdim pwynt gweud celwydd wrth Mam

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae testun ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn yn dangos parch mawr at ei rhieni.  Cyfaddefa Lleucu Ifans na all ddweud celwydd wrth ei mam.  Dywed “Ma hi wastad yn gwbod!”.

Ei mam a fu’n ddylanwad mawr arni hefyd a dywed mai ei thad yw ei harwr “gweithiwr caled a chlust i wrando”.

Ond y person byddai hi’n dymuno bod yn sownd ar ynys anghysbell yw Sar ei phartner “dele hi i ben a sorto rhywbeth”.

Un o wendidau Lleucu yw bwyd.  Ei hoff gludfwyd yw Indian o Nehar a chyfaddefa ei bod yn gorwario ar fwyd.

Hyfforddwr Chwaraeon yw Lleucu a dechreuodd fusnes ei hunan llynedd sef Actif-i-ti.  “Mae digon o stress yn dod gyda bod yn hunan-gyflgedig” meddai, ond mae wrth ei bodd yn gweld plant yn datblygu yn eu sgiliau chwaraeon.

Gallwch ddarllen mwy am Lleucu yn rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc sydd ar gael nawr am ddim ar wefan Clonc.

Beth yw ei siop annibynnol orau?  Beth mae Clonc yn ei olygu iddi hi?  Pryd aeth hi’n grac ddiwethaf?  A beth yw ei chyfrinach i gadw’n heini?