Sefydlu Cadeirydd ac Is-gadeirydd lleol i Gyngor Sir Gâr

Cynghorydd Ieuan Davies, Aelod dros Ward Llanybydder yw’r cadeirydd sir newydd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Cymerodd y Cynghorydd Ieuan Davies, sef yr Aelod dros Ward Llanybydder, gadwyn swyddogol Cyngor Sir Gâr yn fyw ar-lein ddydd Mercher wythnos ddiwethaf.

Cafodd ei ethol mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol ar-lein – y cyntaf o’i fath yn hanes y sir.

Y Cynghorydd Davies fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf gyda’r Cynghorydd Eirwyn Williams o Gwmann, yr Aelod dros Gynwyl Gaeo, yn Is-gadeirydd.

Ymhlith dyletswyddau’r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli’r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i’r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a’u cefnogi.

Mae wedi dewis Ymddiriedolaeth Canser y Prostad ac Eglwys Sant Pedr, Llanybydder fel Elusennau’r Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn.

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Davies: “Mae’n rhoi pleser mawr i mi gael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer blwyddyn y cyngor 2020/21. Dechreuais ar Gyngor Cymuned Llanybydder tua 40 o flynyddoedd yn ôl, ac yn 1995 cefais fy ethol yn Gynghorydd Sir. Rwyf yn byw fy mywyd i helpu eraill yn fy nghymuned ac rwyf wedi bod yn ymwneud ag amrywiol sefydliadau lleol dros y blynyddoedd.

“Byddaf yn parhau i godi arian ar gyfer yr elusennau yr wyf wedi’u dewis, ond mewn ffordd wahanol oherwydd y pandemig coronafeirws. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwerus yn y byd cyflym a newidiol hwn, ac mae’n syndod beth sy’n gallu cael ei wneud yn ddigidol. Rwyf yn edrych ymlaen gydag egni o’r newydd i gyflawni fy rôl a gwneud fy ngorau glas yn yr amserau heriol hyn.”

Wedi ei addysgu yn Llanybydder, Llanbed ac yng Ngholeg Llandrillo yn Rhos yng Ngogledd Cymru, mae’r Cynghorydd Davies wedi bod yn Gynghorydd Sir am y 25 mlynedd diwethaf ac yn Gynghorydd Cymuned am 21 mlynedd.

Mae’n un o sylfaenwyr ac yn Ymddiriedolwr yng Nghanolfan Gymunedol Hen Ysgol Llanybydder ac yn Gadeirydd Pwyllgor Canser Cangen Llanybydder a Llanbed, mae’n drefnydd gydag Apêl Pabïau’r Lleng Brydeinig Frenhinol, Cangen Llanybydder, ac yn un o lywodraethwyr Ysgol Gynradd Llanybydder.

Mae’n gwasanaethu fel Is-gadeirydd ar Bwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y Cyngor a’r Panel Adolygu Tai, mae’n aelod o’r Pwyllgor Cynllunio ac yn wirfoddolwr yn Ysbyty Treforys.

Fel triniwr gwallt wedi ymddeol, sefydlodd y Cynghorydd Davies ei salon ei hun yn Llanybydder yn 1974.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Davies deyrnged i’r Cadeirydd blaenorol, y Cynghorydd Kevin Madge, am ei ymroddiad, ei angerdd a’i ymrwymiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r Cyngor yn cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn i sefydlu Cadeirydd newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod ac er mwyn i’r Arweinydd gyflwyno ei adolygiad o’r flwyddyn flaenorol.

Fel arfer caiff y cyfarfod ei gynnal yn y Siambr yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, gydag ymwelwyr anrhydeddus a gwesteion gwadd ond oherwydd y cyfyngiadau parhaus yn sgil Covid-19, cyfarfu’r Cyngor cyfan ar-lein am y tro cyntaf. Cafodd y cyfarfod ei ddarlledu’n fyw ar wefan y Cyngor.

Pob dymuniad da i’r Cynghorydd Davies yn y swydd flaenllaw hon mewn amser mor ansicr, a phob hwyl i’r Cynghorydd Williams fel Is-gadeirydd.  Meddyliwch fod dau o’n arweinwyr lleol ni yn llywio cyngor sir mor fawr.  Ardderchog.