Sesiynau Digidol am ddim

gan Meinir Davies

Ydych chi am ddatblygu eich sgiliau digidol? Dewch i Sesiynau Digidol wythnosol Menter Gorllewin Sir Gâr yn Neuadd Llanllwni a Llanfihangel ar Arth rhwng 10 a 12.

Rydym yn cynnig gwasanaeth rhad ac am ddim i drigolion sydd eisiau datblygu eu dealltwriaeth am ffonau symudol, cyfrifiadur, tabled ac iPad.

Ydych chi adnabod rhywun sy’n ddihyder i ddefnyddio cyfrifiadur, neu rywun a gafodd dabled fel anrheg er mwyn cadw cysylltiad ond yn ofni ei ddefnyddio?  Wel, dyma’r cyfle iddyn nhw.  Yn rhad ac am ddim hefyd. Dywedwch wrthyn nhw.

Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf yn Neuadd Llanllwni ddoe.  Bydd y sesiwn nesaf yn Neuadd yr Ysgol Llanfihangel ar y 26ain o Chwefror ac yn Neuadd Llanllwni eto ar y 4ydd o Fawrth gan ddechrau am 10 o’r gloch y bore.

Rydym yn croesawu unrhyw un i’r sesiwn beth bynnag yw eu sgiliau digidol. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â ni ar 01239 712 934 neu meinirdavies@mgsg.cymru