Mae’n siapo… ond shwt all y wefan hon wella?

Be sy’n dda? Oes ’na rywbeth sy’n peri trafferth? Be’ sy angen nesa? Helpwch ni i wella clonc360!

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Ydych chi wedi sylwi bod clonc360 wedi cael gweddnewidiad yn ddiweddar? Wel, ry’n ni am i chi ein helpu i ddatblygu eich gwefan fro ymhellach.

Fe fyddwch wedi sylwi wrth ymweld â’r wefan hon dros y misoedd diwethaf bod nodweddion bach newydd wedi ymddangos yn rheolaidd. Mae clonc360 bellach yn byw ar system dechnolegol fwy pwerus nag o’r blaen, ac mae’n cyd-fynd â gwefannau eraill prosiect Bro360 (BroAber360, ogwen360 a DyffrynNantlle360).

Gobeithio ein bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir wrth greu platfform defnyddiol a hygyrch all wneud gwahaniaeth i’ch bro, i newyddiaduraeth leol ac i’r Gymraeg.

Nodweddion sy yma nawr

  • modd i bawb sy’n byw yn lleol i greu cyfri fel brodor, er mwyn cyfranogi
  • sgwennu testun a lanlwytho lluniau, trwy ben cefn WordPress
  • creu blog byw
  • rhannu linc i fideo neu wefan allanol
  • dewis categori a thagiau i bob stori
  • straeon ‘poblogaidd yr wythnos hon’ ar yr hafan
  • gwirydd sillafu
  • calendr digwyddiadau
  • modd cyfrannu sylwadau i straeon eraill
  • botwm ’diolch’ am stori
  • botwm ‘rhannu’

Dyma syniad o rai o’r datblygiadau nesa:

  • cyfrannu oriel luniau o’r pen blaen
  • y calendr a’r 3 digwyddiad nesaf ar yr hafan
  • ffrwd o’r newyddion cryno diweddaraf
  • modd lanlwytho traciau sain
  • ystadegau eich straeon personol
  • bar chwilio

Casglu barn er mwyn gwella

Hoffen ni w’bod eich barn am y wefan hon.

Be sy’n dda? Oes ’na unrhyw beth sy’n peri trafferth wrth gyfranogi? Oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut mae gwella, neu pa nodweddion yr hoffech chi eu gweld yn y dyfodol?

P’un ai ydych yn ddarllenwr neu’n wyliwr, yn sgwennwr neu’n rhannwr fideos, yn olygydd neu’n dymuno ’diolch’ am ambell i stori’n unig – ry’n ni am glywed gennych. Ar ôl creu cyfri/mewngofnodi, nodwch eich sylwadau isod ?

Gyda’n gilydd, gallwn greu gwefan leol wych i Llanbed a’r fro!