Pwy sy’n cofio gweld Sion Corn yn eistedd ar simdde tafarn poblogaidd yn yr ardal?
Arferai Sion Corn ymddangos ar y simdde arbennig hon rhyw bythefnos cyn Nadolig, cyn diflannu ar Noswyl Nadolig wedi iddi dywyllu.
Ac roedd yn atyniad arbennig gyda rhieni yn mynd â’u plant yn eu ceir i weld yr olygfa unigryw. Yn ôl bob son hefyd, bu bron i sawl damwain ddigwydd ar y brif ffordd wrth i yrrwyr wyro tra’n edrych lan ar y cymeriad lliwgar yn hytrach na chanolbwyntio ar y ffordd.
Ond yr hyn na wyddai neb, oedd y gwaith cynllunio oedd yn mynd mewn i ymddangosiad Sion Corn bob blwyddyn.
Ie Tafarn y Ram yng Nghwmann oedd y lleoliad, a Wynne a Mary Davies oedd y tafarnwyr ar y pryd cyn iddynt ymddeol 17 o flynyddoedd yn ôl.
Gwaith creadigol Helena Gregson oedd Sion Corn a Bryn, ei gŵr a Gwyn Williams oedd â’r dasg o sicrhau ei ddiogelwch ar y simdde.
Ond pam oedd achub Sion Corn o’r simdde ar Noswyl Nadolig yn dipyn mwy o her na’i osod e yna yn y lle cyntaf?
– Gallai’r tywydd fod yn arw a gaeafol iawn ar Noswyl Nadolig ac roedd dringo ysgolion i’r to yn dasg beryglus iawn.
– Roedd tipyn mwy o bwysau yn Sion Corn ar adeg dod lawr o’r simdde gan ei fod wedi bod mas yno ym mhob tywydd am bythefnos.
– Ar ben hynny hefyd roedd rhaid i gynorthwywyr Sion Corn aros yn sobor tan fod ei draed yn ddiogel ar y ddaear. Ond yn ôl un ffynhonnell ddiogel, roedd yna ddathlu mawr yn y Ram wedi’r orchwyl blynyddol, a Sion Corn wedi dechrau ar ei daith o gwmpas cartrefi’r ardal!