Stori am ein cefnogaeth i’n teuluoedd dros y ‘Pandemig’

Swyddfa Home-Start Ceredigion yn Llanbed.

Dona Hage
gan Dona Hage
HS_Ceredigion_Centre_Main_CMYK-1

Ym mis Ionawr 2020 gwelwyd pob un ohonom yn ffres ac yn barod i ddechrau ar ôl gwyliau Nadolig hyfryd i barhau i gynnig cefnogaeth 1-1 i’n teuluoedd yn eu cartrefi eu hunain a thrwy grwpiau cymorth ond gwaetha’r modd daeth y newyddion am y “Pandemig”.

Dywedwyd wrthym fod y rhain yn ‘amseroedd digynsail’ felly fel tîm fe benderfynon ni gynllunio ymlaen llaw a meddwl am ffyrdd i barhau i gefnogi ein teuluoedd pe baem yn mynd i gyfnod clo.

Beth wnaethon ni ei gynllunio rhag ofn y byddai clo mawr yn digwydd

• Sefydlu tudalennau Facebook caeedig ar gyfer y teuluoedd fel y gallem gadw mewn cysylltiad

• Staff yn creu crefftiau a’u ffilmio

• Creu ryseitiau sylfaenol ag i ffilmio

• Staff i gyd gael ein cyfran o deuluoedd i gefnogi dros ffôn/testun/e-bost.

• Ein gwirfoddolwyr – Rhoi gwybod bod ni yma iddyn nhw.

• Cynllunio dod nôl i’r swyddfa pan fydd y clo mawr yn codi.

Isod mae rhestr o rhoddwyr a gyfrannodd dros y clo mawr:

• 52 lives

• Cyngor Tref Llnabedr Pont Steffan

• Coedwig Gymunedol Longwood

• Sainsbury’s Llambed

• Home-Start UK

• Families First

• Volac – Betty Lawes Foundation

• Wales Resilience Fund

• Byddin yr Iachadwriaeth

• Aelodau o’r cyhoedd

• Banc Bwyd Llambed

• Fare Share

• Waitrose

Mae’r grantiau hyn wedi caniatáu inni brynu Hylendid, golchdy, bwyd anifeiliaid anwes, top-up trydanol ar gyfer y teuluoedd gan eu bod wedi dweud wrthym fod eu holl arian yn mynd tuag at brynu bwyd.

Un peth y gallwn fod yn sicr ohono yw y bydd teuluoedd yn parhau i fod angen ein cefnogaeth ac rydym wedi dangos pa mor hyblyg y gallwn fod i barhau i fod yno ar gyfer ein teuluoedd.