‘Stunt double’ da i’r Welsh Whisperer

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Glyn Jones sy’n byw yng Nghwmann sy’n ateb cwestiynau ‘Cadwyn Cyfrinachau’ Papur Bro Clonc y mis hwn, a gyda’i fwstas, teimla y gallai wneud ‘stunt double’ da i’r Welsh Whisperer!

Yn wreiddiol o Gaio, mae’n gweithio i Fenter Bro Dinefwr, yn un o arweinyddion CFfI Dyffryn Cothi, yn canu gyda Bois Ar Wasgar ac yn chwaraewr cyson i Dîm Rygbi Llanbed.

Mae ganddo atebion estynedig a diddorol i’r cwestiynau. Dyw e ddim yn berson da iawn gydag uchder ac un o’i arferion gwael yw cnoi ei ewinedd!

Y ffordd i galon Glyn yw trwy ei stumog ac mae e’n canmol ei bartner Gwenno am wneud cacennau iddo!  Ar y llaw arall gallwch ei ddala fe yn dweud celwydd tra’i fod e’n siarad am ei bwysau!

Ei rieni yw’r dylanwad mwyaf arno ond y cŵn defaid nôl ar y ffarm y mae’n eu trysori fwyaf.

Mynnwch gopi o rifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc mewn siop leol er mwyn darllen mwy amdano.