19 tafarn o leiaf yn y Stryd Fawr, Llanbed

Crynodeb o hanes tafarndai Llanbed a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.

gan Yvonne Davies

Odych chi’n hiraethu am fynd mas i’ch tafarn leol am bryd o fwyd, neu i gael clonc dros lasied bach o rywbeth efallai, ar ôl cyfnod hir o fod gartref? Mae’n dipyn o broblem cadw at reolau’r ymbellhau sy’n bodoli ar hyn o bryd, yn enwedig o feddwl am yr holl dafarnau sydd wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf.

Beth am dref Llambed? 6 o dafarnau sydd yma erbyn hyn, 7 os yn rhifo Gwesty Glynhebog, lle’r oedd yna….faint y’ch chi’n feddwl? Wel, roedd cymaint â 19 o leiaf yn y Stryd Fawr, ac mae’n bosib enwi tua 40 tafarn neu westy yn y dre, er efallai nad oeddent i gyd yno yr un pryd.

Byddai ’na wahanol safonau a disgwyliadau i’r llefydd hyn – gwesty yn rhoi gwely a bwyd i ymwelwyr, a hynny am gyfnod o rai diwrnodau; tŷ tafarn yn cynnig bwyd a gwely dros nos; tafarndy yn gwerthu cwrw o dan drwydded barhaol, a’r dioty yn gwerthu’n achlysurol ar ddiwrnodau marchnad neu ffair, a’r cwrw wedi ei fragu yn y fan a’r lle, ond o dan drwydded eto.

Mae’n rhyfedd meddwl, hyd yn oed yng nghefn gwlad fel hyn mae enwau Saesneg a roed arnynt. Yn gymharol ddiweddar ry’n ni wedi dod i feddwl am y Black Lion fel ‘Y Llew Du’ a’r Castle Green fel ‘Llain y Castell.’ Dim ond un dafarn rydw i wedi gweld cyfeiriad ati ag enw Cymraeg, sef ‘Y Cornel’ ond does dim sôn amdani ar unrhyw gyfrifiad o 1841 ymlaen. Mae’n debyg ei bod yn sefyll ar yr unig ffordd oedd yn arwain i’r Cwmins ar y pryd, heibio J H Roberts a Gwesty’r Castell heddiw. Y ‘Royal Oak’, yr ‘Ivy Bush’, a’r Nag’s Head (y King’s Head cynt) yw’r enwau sy’n aros ar y rhain o hyd.

Cyn i’r rheilffordd gyrraedd Llambed, ceffyl neu geffyl a chart oedd y modd teithio, a byddai’r tafarnau/gwestai o wasanaeth mawr iddynt: yn lle i orffwys, i gael bwyd a thorri syched wrth gwrs, ond lle hefyd a oedd yn cynnig stablau neu gae i gadw’r anifeiliad ac i’r teithwyr a fyddai’n mynd ymlaen o Lambed, roedd cyfle i bedoli’r ceffylau neu eu newid am geffylau ffres. Hyn i gyd am dâl wrth gwrs, ac yn fusnes i’r gwesteiwr.

Y gwesty mwyaf yn y dref a fyddai’n fan aros coets y ‘Royal Mail’ – yn dod o Gaerfyrddin, yn aros yn Y ‘Black Lion’ac yna ’mlaen am Aberystwyth. Y gwesteiwr eto yn cael ei dalu am dynnu’r llythyron lleol o’r cwdyn post a nodi o ble’r oeddent wedi dod, nodi’r tâl am y milltiroedd, a’r derbynnydd yn talu am y llythyr. Newidiodd pethau gyda dyfodiad y stampiau yn 1840. O hynny ymlaen byddai mwy o dafarnau yn cael siâr yn y fusnes a gelwid hwy yn ‘Posting Houses’ac roedden nhw’n cyflogi bechgyn i ddosbarthu’r llythyron. Mae’n syndod fod gwestai newydd sbon heddiw yn cael ei henwi’n ‘Post House’ mewn aml i fan!

Yn rhifyn Medi Papur Bro Clonc, rwy’n olrhain hanes tafarndai y Stryd Fawr, Llanbed.  Oeddech chi wedi clywed am y Green Dragon, y Ship Inn, y Red Lion Inn a’r Queen’s Arms yn Llanbed?  Tipyn o agoriad llygad felly.  Cofiwch brynu copi cyfredol Papur Bro Clonc yn y siopau lleol er mwyn dysgu mwy amdanynt.