Taith Cymdeithas Edward Llwyd Ionawr 2020

gan Alun Jones
Dyma hanes taith gyntaf y Gymdeithas yn 2020 drwy ymweld â thref hanesyddol Yr Hen Ficer Llanymddyfri.
Y rhan gyntaf yn ymwneud âhanes cymeriadau’r fro, ger y castell cael hanes Llywelyn ap Gruffydd Fychan o Gaeo, a’i ymdrech dros fyddin Owain Glyndwr drwy arwain Byddin Brenin Harri IV ar gyfeiliorn. Yn y diwedd pallodd amynedd y Brenin Harri a chyfaddefodd Llywelyn ei fod yn deyrngar i Glyndwr, gan fod dau o’i feibion yn ymladd dros Owain Glyndwr a Chymru. Cafodd Llywelyn farwolaeth erchyll gan fyddin Harri IV, a da yw bod cofeb a phlac glas iddo yn Llanymddyfri.

Ar dafarn y King’s Head ceir plac glas arall yn cyfnodi David Jones Blaenos yn sefydlu Banc yr Eidion Du yma yn 1799. Yn ei ddyddiau cynnar bu David Jones yn Borthmon llwyddiannus cyn troi yn fasnachwr ariannol. Bu farw David Jones yn 1839 yn wr cefnog a llwyddianus, ac yn ôl dymuniad ei ewyllys roedd am i’w dri ŵyr gario gwaith bancio ymlaen. Ehangwyd y fusnes ariannol gyda David Jones yr ŵyr hynaf yn parhau yn Llanymddyfri gyda William yn agor banc yn Llanbed a John yn Llandeilo ac yn masnachu dan yr enw David Jones & Co gydag arian papur a llun yr Eidion Du arnynt, gellir cael arian papur i’r gwerth oedd £1 £2 £5 £5-5-0 ac £20, masnachu wnaethant hyd 1903 gyda’r teulu yn gwerthu’r fusnes bancio i gwmni Lloyd Banc.

Y trydydd plac glas a welsom oedd yn cofnodi Carterf Rhys Pritchard neu Yr Hen Ficer Pritchard. Cafodd ei addysg yn lleol, ac aeth i Goleg yr Iesu yn Rhydychen lle graddiodd yn 1602, mi ddaliodd bron pob swydd o fewn Eglwys Lloegr yng Ngymru a Lloegr a mawr oedd ei ofal am Blwyfi cylch Llanymddyfri. Cyfraniad teilwng arall Y Ficer oedd ei gasgliad o benillion a gyhoeddwyd gan Stephen Hughes ar ôl ei farwolaeth sef Cannwyll y Cymru, sydd a chynghorion buddiol ar gyfer moesoldeb a chymdeithas yr oes. Yn ei ewyllys gadawodd Allt goed 42 erw i bobl dlawd Llanymddyfri iddynt gasglu brigau tanwydd, ond gyda’r amod mai dim ond yr hyn allent gario ar eu cefn oddi yno. Mae’r tir yn eiddo i Gyngor Tref Llanymddyfri, ac yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Ymwelsom ar ein taith drwy dref a Chapel Coffa William Williams Pan-y-celyn, capel a godwyd i goffau y Per Ganiedydd yn 1888, Yr adeilad wedi godi ar ffurf Gothic gyda phedair ffenestr lliw yn cynrychioli y Brenin Dafydd, Poffwyd Esiah, Sant Mathew a Miriam. Mae’r Pulpud o garreg dramor gyda phaneli wedi cerfio yn gywrain iawn o fywyd yr Arglwdd Iesu a William Williams.

Cerdded allan o’r dref am Eglwys Llanfair ar y Bryn safle cyntaf Castell Llanymddyfri, ymweld â Cholfon a Bedd y Per Ganiedydd a’i Deulu. Gadael y fynwent a cherdded dros gledrau rheilffordd Canolbarth Cymru, am fferm dlws Dolau Hirion a phont Dolau Hirion. Yn ôl Coflein mae’r bont yn y deg mwyaf amlwg Cymru. Wedi cynllunio gan William Edwards, Pensaer, Gweinidog ac Adeiladydd, yr un person fu’n gyfrifol am bontydd Pont-y-pridd, Pontardawe, Aberfan, Glasbury ayb, nefoedd i arlynwyr yw’r lle hwn.

Cawsom gipolwg ar fyd natur drwy Ffyngau y Croen Oren, Cacenni y Brenin Alfred, Cen Swigennog, Cedor y Wrach, Ymenyn yr Eithin. Diolch i’r chwech ar hugain a ddaeth i ymddiddori yn ardal yr Hen Ficer ar ddiwrnod gwlyb iawn.

1 sylw

Alwena Williams
Alwena Williams

Er i mi fethu’r daith wedi gwerthfawrogi’r ffeithiau diddorol yma -yr hanes a’r planhigion/ffyngau a welsoch.

Mae’r sylwadau wedi cau.