Trafferth ym mharadwys

Y Coronafeirws yn dod ag antur seiclo’r byd i ben.

Rhodri Price
gan Rhodri Price

Pedr a Rhodri efo’r dyn a drefnodd y cwch o Colombia i Panama.

Yn dilyn fy mlog cyntaf am grwydro’r Andes ar gefn beic ar wefan Clonc360, mae llawer wedi digwydd a sefyllfa teithio’r byd wedi newid yn llwyr.

Wedi misoedd o seiclo trwy’r America’s, roedd beics y ddau ohonom wedi gweld gwell dyddiau. Wrth i ni lanio ar lannau Panama roedd hi’n amlwg fod eisiau gofal cariadus tyner ar y beics, ac yn sicr roedd angen gorffwys ar y ddau ohonom ni.

Bu’r oriau nesa yn wyllt wrth i ni ceisio trwsio’r difrod. Roedd angen sicrhau bod yr olwyn dal i droi, ac ein bod ni’n medru parhau i gropian i fyny i’r Unol Daleithiau. Y cynllun felly oedd i seiclo ar frys i Puntarenas, ar arfordir gorllewin Costa Rica. Yno byddai ein ffrind Alex yn disgwyl amdanom efo parsel o adre, parsel llawn hanfodion er mwyn parhau ar ein taith.

Ar ôl dyddiau o seiclo roedd Puntarenas o fewn golwg, ond wrth i ni nesau roedd sioc i ddod. Roedd y parsel wedi ei gadw yn nhollau Costa Rica.

Efo amser yn brin, roedd angen penderfyniad. Yr unig optiwn oedd i adel i Pedr barhau am Efrog Newydd ac i minnau aros am y parsel cyn ceisio dal i fyny.

Erbyn bore trannoeth roedd hi’n amser i Pedr adael am y gogledd. Roedd e’n ddiwrnod trist. Dyma’r tro cynta mewn misoedd i ni adael ein gilydd. Byddai’r dyddiau nesa yn rhai tawel dros ben.

Diwrnodau hir yn aros ar arfordir Costa Rica, efo ychydig yn fwy na mwynahu’r tywydd i wneud. Er mwyn ceisio cadw fy hun rhag mynd yn wallgo roedd hi’n amser gadel y beic a dal bws lawr i Jaco.

Y lle yn llawn trafeilwyr a phethau i wneud tra’n aros. Wythnos yn llawn syrffio, creu ffrindiau ac atgofion bythgofiadwy. Ond wrth i’r newydd-deb trawsnewid i’r norm roedd yna hiraeth sicr tuag at yr heol. Unwaith byddai bywyd yn troi yn gyfforddus fel arfer roedd hin amser gadael am sialens newydd.

Ond doedd dim dianc o’r paradwys hwn. Roedd yna barsel yn fy nal i yma, yr hostel ar lan y môr fel carchar i mi erbyn hyn. Wrth i mi golli’r dyddiau gerbron, byddai problem newydd ar y gorwel er mwyn tynnu fy sylw bant o’r hyn oeddwn i’n colli.

Misoedd o wylio’r newyddion, afiechyd y coronafirws yn lledaenu’n gyflym ar draws hyd a lled y byd. Serch hyn, roedd yr America’s yn bell o graidd y broblem. Ac am adeg yn sicr roedd pawb yn teimlo ein bod ni’n anorchfygol i’r firws hwn.

Ar ôl pob galwad adre roedd yna bryder cynyddol. Teulu yn pledio i’r ddau ohonom ddod adre, ond roedd hi’n anodd. Y ddau ohonom wedi dod mor bell, minnau o ffin Peru ac Ecwador a Pedr pryn wythnosau o orffen ei freuddwyd o seiclo rownd y byd. Ar ben hynny roedd yr addewyd i’r elusen. Ni allem ei siomi. Roedd y ddau ohonom yn benderfynol o seiclo tan oedd hi’n amhosib.

Y diwrnod wedyn cefais alwad byddai’n newid y cyfan. Roedd ffrind i minnau ym mhrif faes awyr Costa Rica, ac yno cafodd y newyddion fod y maes awyr am gau o fewn pryn diwrnodau.

Roedd teimlad o bryder wedi cyraedd paradwys heb os erbyn hyn. Ond roeddem ni am groesi i Nicaragua ar gefn beic felly doedd y newyddion am y maes awyr ddim yn broblem.

Wrth i’r don nesa o drafeilwyr gyrraedd yr hostel roedd nawr son bod ffiniau Costa Rica a Nicaragua ar fin cau. Cefais y temlad o suddo wrth glywed y newyddion. Roedd rhaid hastu i adael.

Y bore wedyn cefais y bws cyntaf tuag at y gogledd. Yno oedd y beic yn aros amdanaf. Seiclo yn gyflym i’r bws nesaf oedd y prif nod nawr, 10 milltir mewn i wynt y pasiffig efo beic toredig.

Yno roedd rhaid aros. Canoedd yn ceisio ffoi i’r brif ddinas er mwyn gadael yr hunllef ac osgoi gorfod sefyll. Un ticed, i’r brif ddinas. Awr o aros, ac wrth llwytho’r beic i waelod y bws bu brwydr arall. Y gyrwr yn mynnu taliad, fel cardi roedd derbyn hyn yn anodd, serch fy mod in gwybod mai hyn oedd y drefn yn y gwledydd yma.

Ar ôl 10 munud o fargeinio, roedd hi’n amser i eistedd ar y bws am rai oriau. Wrth gyrraedd y brif ddinas roedd hi’n amser seiclo eto. Y tro hwn roedd rhaid ffeindio siop seiclo er mwyn cael bocs i hedfan y beic.

Yn ffodus arol 10 muned o crwydro trwy San Jose roedd yna siop feics yn barod i helpu. Yno cefais focs a trwy lwc roedd y siop yn fwy na bodlon i fy nghludo i a’r beic i’r hostel. Engraifft arall o’r caredigrwydd roeddwn i wedi ei dderbyn trwy gydol y daith.

Y bore wedyn roedd hi’n amser gadael Costa Rica, lle roeddwn i wedi ymroi dros yr wythnosau dwethaf, serch roedd hi’n anodd derbyn bod y daith ar ben. Daeth peth cysur o wybod byddai’n rhaid ddod nôl yma i ail gychwyn yn y dyfodol.

Ar ôl llwyddo cael ticed i Mecsico, roedd hi’n amser hedfan. O fewn rhai oriau byddai’r nod yn newid. Nid ceisio ffoi Costa Rica cyn iddo gau ond ceiso dod o hyd i Pedr er mwyn i’r ddau ohonom ddod nôl i Brydain efo’n gilydd.

Ar ôl rhai diwrnodau yn aros iddo, efo lwc roedd e wedi cyraedd yn saff. Dyma’r amser hiraf heb ein gilydd mewn misoedd. Roedd pythefnos heb Pedr fel pythefnos heb fraich chwith.

Am ddiwrnodau byddai’r ddau ohonom yn ceisio trefnu awyren i’n cludo ni adre. Ond doedd hyn ddim yn dasg hawdd. Efo pob awr byddai awyren arall yn cael ei llanw neu ei chanslo. Ac erbyn hyn yr unig opsiwn oedd i gael awyren byddai’n hedfan yn syth i Brydain heb stop yn yr Unol Daleithiau neu yn Ewrop.

Erbyn hyn roedd panics llwyr yn yr hostel, pawb yn ceisio ffoi. Breuddwydion sawl un wedi troi yn hunllef. Bu’r ddau ohonom yn ffodus o gefnogaeth teulu er mwyn sicrhau ein bod ni’n medru dod adre, ond i sawl un arall roedd hyn amhosib.

Y dyddiau nesa yn crwydro trwy’r brif ddinas. Pawb yn byw eu bywydau fel petai y coronafirws ddim yn bodoli o gwbwl. Diwrnodau yn llawn hiraeth am yr heol. Byddai’n rhaid ceisio cael gwared yr egni wrth taflu frisbee yn y parc. Yno byddai Pedr a minnau am oriau weithiau, cyn cael sach llawn ‘churros’ a dychwelyd yn ôl i’r hostel lle byddai’r panic unwaith eto’n amlwg.

Tacsi, awyren, a theulu pendraw i arwain y ddau ohonom nôl i dŷ wrth yml Llundain. Yno byddai’r ddau ohonom yn hunan ynysu am bythefnos. Yr unig normalrwydd oedd oriau o ymarfer corff ar gefn y beic. Roedd hi’n seibiant o’r pedair wal, ac yn sicr hebddo byddai’r ddau ohonom wedi mynd off ein pennau’n llwyr.

Weithiau tra’n trafeili byddai’r ddau ohonom yn breuddwydio am adre, seiclo mewn i Lundain ar ddiwedd y daith hir, dathlu yno efo teulu a ffrindiau. Ond roedd y realiti hyn yn bell o’r freuddwyd. Yn sicr nawr y freuddwyd yw’r heol, dychwelyd yn ôl i Costa Rica a seiclo oddi yno rhyw ddydd. Byw mewn gobaith!