Trek 26 milltir lleol er mwyn Cymdeithas Alzheimer’s

Wendy a Carol yn codi arian at achos sy’n agos iawn i’w calonnau.

Wendy Evans
gan Wendy Evans

Tua blwyddyn yn ôl penderfynodd Carol a fi godi arian tuag at achos Cymdeithas Alzheimer’s oherwydd bod yr achos yma yn agos iawn i’n calonnau wrth weld mam/mam yng nghyfraith yn dioddef o’r salwch ers sawl blwyddyn.

Fe drefnwyd sialens Trek26 Bannau Brycheiniog gan Gymdeithas Alzheimer’s ar gyfer 4ydd Gorffennaf, ac aethon ni ati i ddechrau ymarfer ar gyfer y sialens, ar ôl ei weld fel cyfle i godi ymwybyddiaeth i’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y gymdeithas. Ond, gyda argyfwng Covd-19 yn ein bwrw ni, cafodd y sialens ei ohirio tan 5ed Medi.

Gyda dim ond wythnos i fynd, dyma Carol a fi yn dechre cynhyrfu. Ond ‘na beth o’dd siom pan wnaethom dderbyn ebost i ddweud bod y sialens wedi ei ganslo oherwydd bod un ffarmwr wedi troi rownd i ddweud na fydde’r sialens yn gallu mynd ar ei ddaear e.

Wythnos i fynd ac wedi casglu tua £1,500, roedd gennym ni benderfyniad i’w wneud, ife sefyll tan mis Gorffennaf nesa am y Trek26 nesaf, neu fwrw ati i wneud y sialens o fewn ein milltir sgwâr?

Wel ryn ni wedi penderfynu bwrw ati yn ein hardal, felly dydd Sadwrn ‘ma fe welwch Carol a fi yn cerdded ein Trek26 lleol.

Byddwn yn cychwyn o Rhosdir, Bwlchyfadfa am 8.30yb bore Sadwrn ac yna pasio trwy Talgarreg, Gorsgoch, Cwrtnewydd, Cwmsychbant, Drefach, Llanybydder, Tŷ Mawr, Parcyrhos, Cwmann, Llambed, Maestir, Capel Y Groes, a gorffen ym Mharcyrhos, Gorsgoch (cyn y bydd hi’n dywyll gobeithio!!). Yn ôl y car mae’r Trek ‘ma yn 26 milltir gwmws,  cawn weld dydd Sadwrn!

Os ydych o amglych amser byddwn yn paso dewch allan i’n cefnogi, byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth.  Gallwch gyfrannu ar ein tudalen justgiving hefyd pe dymunwch.