Mewn llythyr ar wefannau cymdeithasol heddiw, cyhoeddodd pennaeth Ysgol Bro Pedr Llanbed Mrs Jane Wyn y bydd yr Uned dan 5 yn cau am bythefnos.
“Heddiw, holwyd i ddisgyblion y dosbarthiadau Derbyn, Sector Cynradd, Ysgol Bro Pedr, i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl i’r Ysgol dderbyn gwybodaeth am achos COVID-19.”
“Gofynnwyd i’r Grŵp Cyswllt Dosbarth Derbyn i hunan-ynysu oherwydd eu bod yn gysylltiadau agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd. Rhaid i’r disgyblion a’r staff hyn aros adref am 14 diwrnod i leihau lledaeniad posibl y firws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.”
Ond bydd gweddill yr ysgol yn parhau ar agor. Dywedodd Mrs Jane Wyn “Oherwydd y gweithdrefnau cryf sydd wedi’u rhoi ar waith yn yr ysgol, dim ond un Grŵp Cyswllt y gofynnir iddo hunan-ynysu. Mae’r Ysgol wedi cysylltu â’r holl rieni a byddant hefyd yn cael eu cefnogi gan Dîm Olrhain Cyswllt Cyngor Sir Ceredigion.”
“Oherwydd goblygiadau’r achos positif ar lefelau staffio yn yr Uned dan 5, fe fydd y Dosbarth Meithrin hefyd ar gau am y pythefnos nesaf. Ni fydd angen i’r disgyblion yn y dosbarth Meithrin i hunan-ynysu gan nad ydynt yn gyswllt i’r achos positif. Felly, fe fydd yr Uned dan 5 yn ei gyfanrwydd ar gau tan ddydd Llun, 7 Rhagfyr 2020.”
“Fe fydd athrawon dosbarth y dosbarthiadau Meithrin a Derbyn yn gosod gwaith ar gyfer y disgyblion drwy Teams, Parentmail a gwefan yr Ysgol yn ystod y pythefnos nesaf.”
Pwysleisiodd y pennaeth “Oni bai am ddisgyblion yr Uned dan 5, fe fydd yr Ysgol ar agor i bob disgybl arall yfory, yn ôl yr arfer.”
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog pob rhiant i atgyfeirio eu plant am brawf os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau, sef:
• tymheredd uchel
• peswch parhaus newydd
• colled neu newid i synnwyr arogli neu flas.
Gallwch wneud cais am brawf ar-lein neu drwy ffonio 119. Mae’n hanfodol hefyd bod rhieni’n cysylltu gyda’r Ysgol os oes plentyn yn datblygu unrhyw symptomau.