Ymarferion Dramâu Dyffryn Cothi

gan Carwen Richards

 ninnau ar drothwy wythnos gyffrous Cystadleuaeth Adloniant CFfI Sir Gâr, mae’r paratoadau’n dod at eu terfyn a’r perfformiad pwysig yn prysur agosau.

Drama yw’r testun eleni, ac yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Cothi, rydym wedi bod wrthi’n ddiwyd ers dros fis bellach yn cynhyrchu nid un, ond dwy ddrama. Yn y cyfnod hwn, mae 13 o actorion wedi bod yn ceisio dod i adnabod eu cymeriadau a dysgu eu llinellau mewn dwy neuadd leol, sef Neuadd y Coroniad, Pumsaint a Neuadd Bro Fana, Ffarmers. Diolchwn i’r pwyllgorau hynny am eu help a’u hamynedd yn ystod y cyfnod dwys hwn o ymarferion.

Yn Nrama ‘Dyffryn Cothi Coch’, mae Deian Thomas, Miriam Elan, Sulwen Richards, Lynwen Mathias, Sion Jones a Carwen Richards. Eirwyn Richards yw cynhyrchydd y ddrama hon. Yn Nrama ‘Dyffryn Cothi Du’, mae Mirain Tomos, Medwen Williams, Anna Davies, Dion Davies, Jessica Jones, Glasnant Jenkins ac Alex Lewis. Cynhyrchwyr y ddrama hon yw Glyn Jones ac Emyr Richards.

Yn wir, rydyn ni wedi chwerthin, a hynny wrth fwynhau derbyn arweiniad gan ein cynhyrchwyr ifanc a chyfoes. Os hoffech chi gefnogi’r Clwb, byddwn yn perfformio yn Neuadd y Gwendraeth, Drefach ar nos Fawrth y deunawfed yn ogystal â nos Iau yr ugeinfed o Chwefror (wythnos hanner tymor). Ond, os na fedrwch chi fod yn bresennol yn ystod wythnos Cystadleuaeth Adloniant CFfI Sir Gâr, dewch i Neuadd y Coroniad, Pumsaint ar nos Iau y 9fed o Ebrill i fwynhau ein cyngerdd blynyddol.

Dymunwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cynorthwyo gyda’r paratoadau eleni eto, o ddylunio’r ddwy set i wisgo’r holl actorion, a phob lwc i bawb sy’n cystadlu yn ystod yr wythnos.