Ymateb Cyngor Tref Llanbed i Covid-19

gan Rob Phillips

Cynhaliwyd cyfarfod brys Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yn rhithiol gan ddefnyddio meddalwedd Microsoft Teams nos Iau 26ain Mawrth. Nid oedd yn bosibl i’r cyngor gwrdd yn arferol oherwydd canllawiau cadw pellter a hunan-ynysu ond roedd yn rhaid trafod ymateb y Cyngor i’r argyfwng a rhai materion brys eraill.

Penderfynodd y cyngor ar nifer o fesurau:

  • Gosod dolennau i wybodaeth swyddogol o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cyngor Sir Ceredigion a Llywodraeth Cymru ynghyd â gwybodaeth leol parthed lle i gael cymorth, gwybodaeth lleol a phrydiau poeth ar ein gwefan (roedd hyn wedi digwydd eisoes ond roedd eisiau cadarnhad ffurfiol);
  • Paratoi taflen wybodaeth gyda manylion lle i gael gwybodaeth cymorth a pha wasanaethau lleol (fferyllfeydd, banciau, siopau bwyd) lleol sydd ar agor, ynghyd â’r manylion cyswllt i fod ar gael ar ein gwefan, ein ffrydiau facebook a twitter, ac i ddosbarthu copi print i bob cartref yn y dref fel bod yr wybodaeth ar gael i’r rhai nad ydynt ar y we, neu yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Mae’r daflen yn cynnwys arwydd i’w dangos y ffenestr os oes unrhyw un angen help brys ac yn methu cysylltu trwy ddulliau eraill fel ffôn neu e-bost. Gofynnwn i drigolion lleol sy’n gweld poster o’r fath i roi gwybod i Meryl Thomas, Clerc y Dref ar unwaith (clerc@lampeter-tc.gov.uk neu 01570 423880) fel ei bod hi’n medru trefnu cymorth. Mae postmyn hefyd wedi cytuno i gadw llygaid allan am y posteri o gwmpas y dref ac rydym yn dra diolchgar iddynt.
  • Paratoi rhestr gynhwysfawr o adnoddau a chymorth fel bod y clerc yn medru cysylltu unrhyw un mewn angen gyda’r gwasanaeth priodol (boed yn wasanaeth y cyngor neu yn wasanaeth gwirfoddol).
  • Gwneud grantiau i fudiadau lleol sy’n cynorthwyo eraill yn ystod yr argyfwng gan gynnwys Canolfan Deuluol Llambed, Home Start Ceredigion, Camfan, Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann a Chlwb Ffermwyr Ifanc Bro Dderi o’r arian sy’n weddill yn Cyllideb Grantiau (Sec 137) y cyngor am y flwyddyn ariannol 2019-20. Mae cyfraith yn rhoi terfyn ar y gronfa hon, ond mae’r £2,300 oedd yn weddill bellach wedi cael ei ddosbarthu. Mae’r cyngor hefyd wedi cytuno i wneud grantiau pellach ar gael o Gyllideb Grantiau (Sec 137) yn y flwyddyn ariannol newydd.
  • Dirprwyo awdurdod i’r Maer (Rob Phillips), y Dirprwy Faer (Selwyn Walters), y darpar Ddirprwy Faer (Helen Thomas) a’r cyn-Faer (Ann Bowen Morgan) ynghyd â’r Clerc i wneud unrhyw benderfyniadau brys sydd angen yn ystod yr argyfwng. Mae’r cyngor yn aros am arweiniad gan Lywodraeth Cymru ynlgŷn â chwrdd yn y dyfodol a threfniadau’r Cyfarfod Blynyddol lle fydd y Maer newydd yn cymryd yr awennau. Os daw caniatâd, bydd modd parhau i gwrdd yn rhithiol yn ystod yr argyfwng.

Gofynnwn i drigolion y dref barhau i ddilyn y rheolau newydd ar fynd allan, ac i gadw llygad ar ein cymdogion. Gallwch adrodd unrhyw bryderon i Glerc y Dref.

Rydym yn dymuno fel cyngor ddiolch i bawb sy’n cadw ein cymuned i fynd gan gynnwys yr heddlu, busnesau, gweithwyr siop a banciau, gofalwyr, staff meddygol, gwirfoddolwyr, gweithwyr y cyngor ac unrhyw weithwyr angenrheidiol eraill.

Gallwch lawrlwytho copi o’r daflen wybodaeth argyfwng yma

Mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan yma