Ymgeiswyr lleol mewn etholiadau prifysgolion

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae wythnos nesaf yn wythnos o etholiadau mewn nifer o brifysgolion yng Nghymru, ac mae sawl person ifanc o’r ardal hon yn ymgeiswyr addawol iawn ar gyfer swyddi blaenllaw o fewn yr undebau myfyrwyr.

Yr ymgeisydd ar gyfer Llywydd UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor) yw Iwan Evans o Flaencwrt.  Mae’n fyfyriwr y drydedd flwyddyn yn astudio Cynllunio a Thechnoleg ac Addysg Uwchradd ym Mhrifysgol Bangor ac ef yw Cynrychiolydd Chwaraeon y Cymric eleni, ond efallai y cofiwch iddo gynrychioli Cymru yn chwarae rygbi cyffwrdd tra’r oedd e’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr. Bu’n aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog hefyd.

Morgan Lewis (neu Moc) o Gwmann sy’n sefyll fel Llywydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth).  Mae Moc yn fyfyriwr y drydedd flwyddyn hefyd ac yn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Mae’n Lywydd y Geltaidd eleni, ond efallai y cofiwch iddo gynrychioli’r Urdd ar daith i Batagonia rhai blynyddoedd yn ôl tra’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr.  Mae’n chwaraewr cyson i Dîm Rygbi Cyntaf Tref Llanbed hefyd.

Ac ym Mhrifysgol Abertawe, mae wyneb cyfarwydd arall i ni yn sefyll mewn etholiad.  Cyn brif ferch Ysgol Bro Pedr yw Alpha Evans o Gwmann.  Mae’n ferch gerddorol iawn ac yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Cwmann.  Mae’n fyfyrwraig yr ail flwyddyn yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n ymgeisydd ar gyfer Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.

Dengys hyn fod Ysgol Bro Pedr a’r ardal unigryw hon yn magu arweinwyr ifanc hyderus sy’n chwarae rol flaenllaw yn ein prifysgolion ni.  Pob lwc i’r tri wythnos nesaf a dymuniadau gorau i’r dyfodol.