Cyfle i deithio ar Ymweliad Gefeillio

gan Philip Lodwick

Mae Pwyllgor Gefeillio Llanbedr Pont Steffan yn trefnu ymweliad â’n gefeilldref ym mis Ebrill ac rydym yn awyddus i groesawu pobl newydd i ddod ar y daith.

Mae Sant Germain sur Moine yn dref fach mewn ardal wledig yn Pays de la Loire ac mae’r gefeillio yn weithredol ers 2001. Rydym wastad yn cael croeso mawr yno!

Rydym yn ymweld rhwng 1af a 5ed Ebrill, gan deithio ar goets a fferi. Pris y daith fydd tua £130 yn cynnwys teithio, llety a bwyd. Dyma eich cyfle i weld ein gefeilldref a gwneud ffrindiau newydd.

Cysylltwch â Kistiah Ramaya (01570 422766) kistiah.ramaya@lampeter-tc.gov.uk am fwy o fanylion. Bydd angen enwau a blaendal erbyn 1 Mawrth.