Disgyblion blwyddyn 2 Ysgol Carreg Hirfaen yn hunan-ynysu

Mae unigolyn yn yr Ysgol wedi profi’n bositif am COVID-19.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae pennaeth Ysgol Carreg Hirfaen, Cwmann wedi cadarnhau bod unigolyn yn yr Ysgol wedi profi’n bositif am COVID-19 neithiwr.  Cyhoeddwyd y neges ar wefannau cymdeithasol.

Mae’r ysgol wedi cysylltu â’r holl unigolion y nodwyd eu bod yn gysylltiadau agos ac o ganlyniad bydd pob unigolyn sy’n perthyn i ddosbarth Hathren yn gorfod hunan-ynysu am gyfnod penodedig.

Ychwanegodd Mr Aled Evans y pennaeth, “Hoffem eich sicrhau bod gweithdrefnau cadarn ar waith a bod y broses Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei dilyn.”

Rhennir gwybodaeth pellach dros y dyddiau nesaf.  Yn y cyfamser, cynghorir pawb i gymryd gofal.

Dymunir yn dda i bawb sydd wedi eu heffeithio ac i’r staff sy’n gwneud eu gorau i warchod y gymuned fach hon.