Her 3,500 milltir o Lanbedr i Lampeter

Her Rithiol Ysgol Bro Pedr a sefydlu cysylltiad a Phennsylvania.

gan Aled Rumble

Er mwyn ceisio cadw’n iach ac aros mewn cysylltiad drwy gydol y sefyllfa bresennol, mae Ysgol Bro Pedr a West Coast Fitness wedi gosod yr her o gerdded, rhedeg neu feicio i Lampeter Pennsylvania sydd 3500 milltir i ffwrdd.

Mae rhai disgyblion wedi bod yn dysgu ac yn gwneud cysylltiad â’r gymuned ac Ysgol Lampeter allan yn Pennsylvania. Mae’r dref wedi ei henwi gan fudwyr Cymreig a ymgartrefodd yno ym 1819.

Rydym yn gwahodd disgyblion, rhieni, staff a ffrindiau Ysgol Bro Pedr i gydweithio â’r her hon! Rydym wedi cychwyn cyfri’r milltiroedd o ddydd Llun 1af o Chwefror ymlaen.

Bydd diweddariadau wythnosol ar ein cynnydd ar gael drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymarfer mewn ffordd gyfrifol, gan gadw at y canllawiau ymbellhau cymdeithasol. 

Beth sydd angen ei wneud?

1- Sicrhewch fod gennych yr App Strava. (Fersiwn am ddim yn iawn)

2- Ymunwch â’n Clwb Strava trwy ymweld â www.strava.com/clubs/bropedr

3- Ar ôl i chi ymuno â’r clwb, pob tro y byddwch yn safio gweithgaredd ymarfer corff mewn i’r app Strava, bydd eich gweithgaredd yn cyfri at y cyfanswm cyfunol. (Pan fyddwch chi’n cerdded bydd angen i chi nodi’r sesiwn fel “Run” er mwyn cyfrif i’n cyfanswm).