Aberystwyth yn Penodi Ysgrifennydd Newydd y Brifysgol 

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi Dr Gwawr Taylor i swydd Ysgrifennydd y Brifysgol.

Prifysgol Aberystwyth
gan Prifysgol Aberystwyth
Dr Gwawr Taylor

Ar hyn o bryd mae Gwawr yn Is-Ysgrifennydd a Phennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol De Cymru lle mae’n gyfrifol am ddatblygu darpariaeth a gwasanaethau’r Gymraeg ar draws y Brifysgol, yn ogystal â rheoli llywodraethiant.

Yn wreiddiol o ardal Llambed, graddiodd Gwawr o Brifysgol Bangor lle bu’n astudio Cerddoriaeth a Chymraeg, cyn parhau â’i hymchwil doethuriaeth yn yr Ysgol Gerdd.

Bydd Gwawr yn dechrau’n ffurfiol yn ei swydd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ionawr 2022.

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r penodiad. Mae gan Gwawr gefndir cryf mewn llywodraethiant a chydymffurfiaeth prifysgolion ac edrychaf ymlaen at ei chroesawu i Aberystwyth ym mis Ionawr.

Ychwanegodd Dr Gwawr Taylor:

“Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i ddychwelyd i Geredigion ac ymuno â Phrifysgol Aberystwyth, yn enwedig wrth iddi baratoi at ddathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu. Mae hi’n gyfnod cyffrous yn ei hanes ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda chymuned y Brifysgol i sicrhau llwyddiant parhaus y sefydliad arbennig hwn.”

Fel Ysgrifennydd y Brifysgol, bydd Gwawr yn arwain adran Llywodraethiant y Brifysgol.

Mae’r rôl yn darparu cefnogaeth i lywodraethiant a rheolaeth y Brifysgol trwy weinyddiaeth Cyngor y Brifysgol a’r prif bwyllgorau gwneud penderfyniadau, yn ogystal â chadw trosolwg ar holl strwythur y pwyllgorau llywodraethu.

Mae hefyd yn cefnogi cydymffurfiaeth sefydliadol â dyletswyddau cyfreithiol a statudol, yn enwedig o ran llywodraethu gwybodaeth.