Gwerthu 370 o dda stôr ym Mart Llanybydder

Adroddiad Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd arbennig o dda.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd 370 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn gyda trêd arbennig o dda drwy gydol y sêl.

Gwerthodd yr eidon gorau am £1,660 o eiddo Bowen, Pwllglas a’r aner orau am £1,470 o eiddo Evans Delfryn. Y pris gorau am fuwch mewn llo oedd £1450 o eiddo Davies Penyrallt. Hoffem ddiolch i Paul a dymunwn pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol. Gwerthodd y baren orau am £1,510 o eiddo Jones Rhydyfallen Isaf a’r tarw gorau am £1,450 o eiddo Davies Panteryrod. Y pris uchaf am fuwch a llo oedd £1,900 o eiddo Davies Penyrallt.

Bydd y farchnad nesaf o dda stôr ar yr 14eg o Awst felly cofiwch gofrestru yn gynnar os oes stoc gyda chi i werthu. Bydd gwobrau ar gyfer y prisiau uchel yn y sêl honno hefyd felly rydym yn disgwyl nifer o wartheg yn enwedig ar ôl y prisiau da ddoe.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn brynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor esmwyth.