Adroddiad Mart Llanybydder sy’n ehangu

500 o dda stôr o safon eithriadol o uchel ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn.

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Gwerthwyd 500 o dda stôr ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn. Roedd nifer o wartheg o safon eithriadol o uchel a’r cyfan yn gwerthu am brisau da.

Gwerthwyd yr eidon gorau am £1,420 o eiddo Davies, Blaenbronfaen, Maesycrugiau ac hefyd £1,420 i Davies, Parcmawr, Ffostrasol a’r aner orau am £1,510 o eiddo Davies, Parcmawr, Ffostrasol. Gwerthwyd aner 10 mis oed yn ogystal am bris da iawn o £1,500 i Evans, Veindre, Pencader. Gwerthwyd y fuwch orau am £1,040 o eiddo Davies, Bwlchmawr, Llanwenog.

Mae mwy o gapasiti i gael yn y mart nawr diolch i ragor o lociau sy’n golygu y gallwn storio ryw 150 o wartheg ychwanegol sydd yn angenrheidiol gan ein bod yn cael niferoedd uwch o wartheg bob mis.

Rydym yn cael cofrestriadau ar gyfer yr arwerthiant nesaf yn barod a gynhelir ar y 13eg o fis Mawrth felly cysylltwch os oes rhywbeth gyda chi i werthu.

Mis nesaf bydd 60 o wartheg tua 12 mis oed yn cael eu gwerthu yn y farchnad gan Jones, Pantycelyn, Cwmann sydd o’r safon uchaf fel arfer wrthynt.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unwaith eto.