Aelod Hŷn y Flwyddyn C.Ff.I. Sir Gâr

Owain Davies o Glwb Llanllwni yn cael ei enwi’n Aelod Hŷn y Flwyddyn.

Siriol Howells
gan Siriol Howells

Wedi penwythnos prysur o gystadlu yng nghystadlaethau Siarad Cyhoeddus C.Ff.I. Sir Gâr, cyhoeddwyd canlyniadau Aelod Iau a Hŷn y Sir am y flwyddyn sydd i ddod.

Pleser oedd clywed mai aelod o Glwb Llanllwni a ddaeth i’r brig eleni – sef Owain Davies (neu Owain Gwndwn).

Owain yw Cadeirydd presennol y clwb ac mae e wedi cymryd rhan mewn llu o weithgareddau ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys barnu stoc, siarad cyhoeddus, Rali a chystadlaethau adloniant y Sir, gan gael cryn dipyn o lwyddiant.

Enillodd Owain Actor Gorau dan 26 yn 2020, ynghyd ag ennill Actor Gorau dan 18 ar sawl achlysur hefyd.

Mae Owain hefyd wedi profi llwyddiant ar lefel Cenedlaethol, gan ennill cwpan y Siaradwr Gorau dan 26 yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus C.Ff.I. Cymru yn 2019.

Owain oedd Aelod Iau C.Ff.I. Sir Gâr yn 2015, ac rydym ni fel clwb yn falch iawn ohono am ddod â theitl yr Aelod Hŷn yn ôl i Lanllwni.

Llongyfarchiadau mawr i ti Owain – mae’r clwb a’r gymuned yn ymfalchio yn dy lwyddiant.