Aelodau CFfI Llanllwni yn rhagori ar lefel Cymru!

Llwyddiant yn dod eto i Lanllwni yng nghystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Cymru.

Siriol Howells
gan Siriol Howells

Ar ddydd Sadwrn, y 24ain o Ebrill cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymru ar lefel Cymru, lle bu yna eto lwyddiant nid yn unig ar lefel y Sir ond hefyd i ni yma yng nghlwb Llanllwni!

Fe wnaeth Betsan Jones a Sioned Howells ddod yn fuddigol yn rhan o dîm Sir Gâr yn yr adran ganol. Llongyfarchiadau hefyd i Betsan Jones a wnaeth derbyn gwobr yr unigolyn gorau yn yr adran hynny.

Fe ddaeth llwyddiant hefyd i dîm adran hŷn Sir Gâr a ddaeth yn fuddigol a llongyfarchiadau i Owain Davies oedd yn rhan o’r tîm hwnnw.