Agor cyfleusterau Llambed

Llyfrgell Llambed yn agor i bori heb apwyntiad a Chyfleusterau Hamdden yn agor yn raddol

gan Siwan Richards

Llyfrgell

Bydd pobl yr ardal yn gallu galw i mewn i llyfrgell Llambed i bori a dewis llyfrau yn eu hamser eu hun o ddydd Llun 09 Awst, a hynny heb apwyntiad.

Bydd y gwasanaeth Clicio a Chasglu yn parhau i gwsmeriaid a bydd y Gwasanaeth Cyflenwi Cartref hefyd yn parhau ar gyfer cwsmeriaid bregus neu bobl sy’n gaeth i’r tŷ.

Cysylltwch â’r llyfrgell i drefnu apwyntiad i ddefnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus, neu i wirio’r oriau agor cyn ymweld. Mae rhifau cyswllt ac amseroedd agor ar gael ar wefan Llyfrgelloedd Ceredigion. Dewch o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar dudalen Facebook Llyfrgell Ceredigion.

Cyfleusterau Hamdden

Mae Canolfan Hamdden Llambed ar agor at ddefnydd y cyhoedd.

Mae’r Cyngor yn anelu at ailagor Pwll Nofio Llambed yn yr hydref.

Mae materion heriol annisgwyl wedi eu hwynebu ym Mhwll Nofio Llambed. Mae Uned Trin Aer newydd yn cael ei osod yn y Pwll Nofio.

Mae’r gwaith yma yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y cyfleusterau ailagor yn ddiogel i gwsmeriaid a staff fel ei gilydd. Mae’r buddsoddiad gan y Cyngor yn dangos y pwysigrwydd a roddir ar les corfforol trigolion. Credir hefyd y bydd y gwaith yn cyfrannu at well profiad i gwsmeriaid wrth ymweld â’r cyfleuster yn y dyfodol.

Mae’r Cyngor yn diolch am amynedd a dealltwriaeth pobl Llambed yn ystod y cyfnod anodd hwn, gan weithio’n galed i allu darparu ystod lawn o gyfleusterau i’r cyhoedd unwaith eto.