Ailgylchu Pecynnau Meddyginiaeth yn Llambed

Gwasanaeth Ailgylchu newydd gyda Fferyllfa Adrian Thomas a 1st Lampeter Rainbows.

Bev Hopkins
gan Bev Hopkins

Mae Fferyllfa Adrian Thomas, Llambed yn cynnig gwasanaeth newydd mewn cydweithrediad â 1st Lampeter Rainbows i ailgylchu pecynnau pothell meddyginiaeth.  Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan gwmni Terracycle efo cwmnioedd Bucsopan a Dulcolax.

Ewch â’ch pecynnau heb y bocsys i’r fferyllfa a’u gosod yn y blwch.  Fe fydd y pecynnau yn mynd at Beverley Hopkins (Lampeter Rainbows) i’w postio i Terracycle cyn iddyn nhw gael eu hailgylchu.

Ewch i wefan terracycle yma i gael mwy o wybodaeth am y broses.

Mae Llambed yn dref ddi-blastig ac mae prosiectau fel hwn yn helpu cadw gwastraff rhag mynd i safleoedd tir-lenwi ac yn well i’r amgylchedd.

Mi fydd 1st Lampeter Rainbows yn cael ychydig o arian nôl i’w ddefnyddio ar fathodynnau a gweithgareddau i’r grŵp.  Mae’r grŵp wedi bod yn ddi-blastig ers 2019.

Ers Covid-19 mae 1st Lampeter Rainbows wedi bod yn cwrdd ar zoom gyda’r grŵp o 12 o ferched yn gwneud pob math o weithgareddau a chael llawer o hwyl.