Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae pennaeth Ysgol Carreg Hifaen wedi rhyddhau fideo ar facebook o bump unigolyn a fu ar dir yr ysgol yng Nghwmann nos Wener ddiwethaf ac yn apelio am enwau cyn gofyn am gymorth yr heddlu.
Dywed Mr Aled Evans fod yr unigolion wedi “Rhacso ffens bren, torri clo ar un o’r gate ac wedi ceisio torri ffenest i fynd mewn i’r adeilad.”
Ychwanegodd Mr Evans fod yr unigolion “Wedi bod yn taflu offer yr ysgol feithrin o gwmpas a busnesa lan ar y balconi hefyd.”
Mae Clonc360 yn deall hefyd bod car wedi cael ei ddifrodi yng Nghae Coedmor, Cwmann ar yr un noson.
Mae Ysgol Carreg Hirfaen yn ysgol ardal newydd a agorwyd yn swyddogol bron i bum mlynedd yn ôl.
Gellir gwylio’r fideo cylch cyfyng ar facebook.