gan
Dylan Lewis
Bu archfarchnad y Co-op yn Llanbed ar gau am rai oriau bore ddoe oherwydd problemau gyda’r oergelloedd.
Bu hyn yn anghyfleus ofnadwy i nifer fawr o siopwyr yr ardal. Y manteision arferol o siopa yn y Co-op yn Llanbed yw’r parcio am ddim ger yr archfarchnad yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r Swyddfa Bost a leolir yng nghefn yr archfarchnad.
Cafodd y ffaith bod y Co-op ar gau effaith ar fusnes The Original Factory Shop hefyd sydd newydd agor o dan do’r un adeilad.
Erbyn prynhawn ddoe ailagorwyd yr archfarchnad gyda’r oergelloedd yn wag. Mae’r Co-op ar agor fel arfer heddiw a’r gweithwyr wrthi’n llenwi’r silffoedd bob yn dipyn wrth i gyflenwadau gyrraedd yr archfarchnad.