Archfarchnad yn Llanbed wedi bod ar gau am gyfnod

Bu’r Co-op ar gau ddoe am ychydig oherwydd problemau gyda’r oergelloedd.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
A53AB072-0193-41D1-A4E0

Llun gan @glanrhocca.

Bu archfarchnad y Co-op yn Llanbed ar gau am rai oriau bore ddoe oherwydd problemau gyda’r oergelloedd.

Bu hyn yn anghyfleus ofnadwy i nifer fawr o siopwyr yr ardal.  Y manteision arferol o siopa yn y Co-op yn Llanbed yw’r parcio am ddim ger yr archfarchnad yn ogystal â chyfle i ddefnyddio’r Swyddfa Bost a leolir yng nghefn yr archfarchnad.

Cafodd y ffaith bod y Co-op ar gau effaith ar fusnes The Original Factory Shop hefyd sydd newydd agor o dan do’r un adeilad.

Erbyn prynhawn ddoe ailagorwyd yr archfarchnad gyda’r oergelloedd yn wag.  Mae’r Co-op ar agor fel arfer heddiw a’r gweithwyr wrthi’n llenwi’r silffoedd bob yn dipyn wrth i gyflenwadau gyrraedd yr archfarchnad.