Arestio dyn ar ôl y chwilio mawr yn ardal Llanbed neithiwr

Bu chwilio am ddyn mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn dilyn presenoldeb heddlu mawr a chwilio yn ardal Llanbed neithiwr, arestiwyd dyn 45 oed y bore ma mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol difrifol.

Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi’r dioddefwr ar hyn o bryd ac mae ditectifs yn delio gyda’r sawl sydd dan amheuaeth yn y ddalfa.

Bu llawer iawn o heddlu ynghyd ag hofrennydd yn chwilio’r ardal am oriau neithiwr.

Hoffai Heddlu Dyfed Powys ddiolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth wrth iddynt chwilio neithiwr, gyda nifer o bobl yn helpu ac yn arwain swyddogion i ddal y dyn dan amheuaeth mewn amser da.