Llongyfarchiadau mawr i Osian Roberts o flwyddyn 11 ac i Sion O’Keeffe a Zara Evans o flwyddyn 12 ar eu llwyddiannau yn rownd derfynol athletau trac a maes rhyngwladol SIAB, ar ddydd Sadwrn y 25ain o Fedi.
Derbyniodd y tri eu ‘fest’ cyntaf dros Gymru, wrth iddynt gystadlu yn eu meysydd gwahanol yn erbyn athletwyr o bob cwr o Brydain. Yn ras y clwydi 100m i fechgyn, llwyddodd Osian orffen o fewn 14.90 eiliad a neidiodd 1.9 medr yng nghystadleuaeth y naid uchel i fechgyn. Llamodd Zara 10.27 medr yng nghystadleuaeth y naid driphlyg i ferched. Taflodd Sion y gwaywffon 57.02 medr yng nghystadleuaeth y gwaywffyn i fechgyn. Gadewch i ni ddysgu mwy am ddau o’r tri :
Sion O’Keeffe, disgybl o flwyddyn 12 Ysgol Bro Pedr. 1. Ers pryd rwyt ti wedi bod â diddordeb ym myd athletau? Eleni, dechreuais i fwynhau ac mae wedi mynd o nerth i nerth. 2. Beth wyt ti’n gwneud i baratoi ar gyfer y cystadlaethau? Jyst gwneud training a chadw yn ffit. 3. Beth mae yn ei olygu i ti i fod yn rhan o dîm Cymru a gwisgo’r crys coch? Mae e’n grêt ac yn siawns arbennig. 4. Beth yw dy gôl wrth edrych ymlaen at y dyfodol yn y maes? Gôl fi yw i drio mynd mor bell a dwi yn gallu.
Zara Evans, disgybl arall ym Mlwyddyn 12 Ysgol Bro Pedr. 1. Ers pryd rwyt wedi bod â diddordeb ym myd athletau? Dwi wedi bod â diddordeb yn chwaraeon trwy gydol fy mywyd ond wedi bod cymryd diddordeb mewn athletau ers roeddwn yn 10 mlwydd oed felly am tua 6 mlynedd. 2. Beth wyt ti’n gwneud i baratoi ar gyfer y cystadlaethau? Mae angen sicrhau bod llawer o ffocws yn mynd tuag at y diwrnod pwysig ac felly mae ymarfer yn gyson yn hynod o bwysig. 3. Beth mae yn ei olygu i ti i fod yn rhan o dîm Cymru a gwisgo’r crys coch? Mae cael cyfle i wisgo’r crys coch wedi bod yn hynod o fraint i gael profiadau a dwi mor ddiolchgar fy mod wedi gallu cael y cyfle i wneud hyn. Mae cynrychioli fy ngwlad wedi bod yn brofiad bythgofiadwy. 4. Beth yw dy gôl wrth edrych ymlaen at y dyfodol yn y maes? Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol fy ngôl ydy bod yn bencampwraig naid driphlyg dros Brydain mewn tair blynedd.
Llongyfarchiadau enfawr i’r tri ar eu perfformiadau ardderchog a chlod mawr iddynt am gael eu dewis i gynrychioli Cymru! Pob lwc i’r dyfodol.