Beicwyr o Lambed yn ymgymryd â Her Canser 50 Jiffy

500 o feicwyr yn codi arian at achos da drwy feicio 50 milltir o un ddinas i’r llall.

Delyth Evans
gan Delyth Evans

Dydd Sul diwethaf ar y 10fed o Hydref, beiciodd 500 o bobl 50 milltir o Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd i Ysbyty Singleton yn Abertawe. Yn cynrychioli ardal Llambed ar y daith roedd Dai, Jac a Delyth Evans o Silian sy’n aelodau o Glwb Seiclo Sarn Helen, Llambed.

Mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru, trefnwyd y daith gan Gadeirydd Felindre a seren y byd rygbi, Jonathan Davies OBE.

Pwrpas yr her oedd codi arian at driniaeth arbenigol a gofal i gleifion canser mewn ysbytai yn Ne Cymru, ac mae’r holl elw o’r digwyddiad yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng Canolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru.

Erbyn hyn mae’r cyfanswm bron iawn a chyrraedd £100,000, wrth i’r swm ar y dudalen Just Giving ddangos bod £98,918 wedi’i godi.

Yn siarad am yr her, dywedodd Jonathon Davies,

“Ar ôl bod yn gysylltiedig â chodi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre ers dros 14 mlynedd, rwy’n hynod angerddol am ofal canser yn Ne Cymru.

Rwy’n gyffrous i gefnogi’r fenter newydd sbon hon a fydd yn cefnogi cleifion canser a’u teuluoedd ledled De Cymru.

Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru, gan eu bod yn caniatáu i ni ddarparu ystod eang o wasanaethau ac offer na fyddai yn bosibl fel arall.”

Dechreuodd y beicwyr cyntaf ar eu taith am 8 y bore gyda’r gweddill yn dechrau’n raddol dros y 45 munud nesaf. Am 1:30yp caeodd yr heddlu y ffyrdd yng nghanol dinas Abertawe er mwyn caniatáu’r 500 o feicwyr i ffurfio peloton mawr a gorffen y daith gyda’i gilydd drwy seiclo trwy Ysbyty Singleton.