Roeddwn wedi mwynhau perfformiad ’Clera’ gan Arad Goch ddoe a dilyn y criw o amgylch strydoedd Llanbed. Roedd hi mor mor braf clywed canu byw a gweld perfformiad byw unwaith eto. Llongyfarchiadau mawr i’r criw.
Gan na ellir perfformio mewn theatrau eto, mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi creu cyfres o berfformiadau bach awyr-agored sy’n digwydd ar draws y sir.
Drwy ddefnyddio chwedlau a hanesion lleol ochr yn ochr â storïau diweddar a newyddion cyfredol mae criw Arad Goch yn cydnabod a dathlu ein hetifeddiaeth yn ogystal â chryfderau a digwyddiadau ein cymuned.
Theatr ‘gudd’ neu ‘pop-up’ yw hon sy’n mynd o’r mynyddoedd i’r môr. Maent yn dangos pwysigrwydd hanes, diwylliant a chymunedau’r sir drwy ddod ag eiliadau o brydferthwch a diddanwch er mwyn ceisio gwrthwneud rhai o elfennau ynysrwydd a achoswyd gan unigrwydd Covid19.
Gan ddefnyddio storïau, cerddoriaeth, caneuon a dawnsio a gan gydweithio gyda’r bardd Eurig Salisbury a’r coreograffydd Anna ap Robert mae’r actorion yn creu a pherfformio darnau sy’n unigryw i gymunedau Ceredigion.
Braf oedd gallu mwynhau hyn i gyd yn yr awyr agored a chefnogi actores leol dalentog sef Elliw Dafydd o Silian.
Dyma weddill y perfformiadau yr wythnos hon:
Dydd Mercher 14/07 – 2 – 4y.h – Cei Newydd
Dydd Mercher 14/07 – 5 – 6y.h – Llanilar
Dydd Mercher 14/07 – 6:30 – 7:30y.h – Llanfihangel y Creuddyn
Dydd Iau 15/07 – 2 – 3y.h – Talgarreg
Dydd Iau 15/07 – 4:30 – 6:30y.h – Penrhyncoch
Dydd Gwener 16/07 – 3 – 4:30y.h – Aberteifi
Dydd Gwener 16/07 – 5 – 7y.h – Aberteifi
Dydd Sadwrn 17/07 – 12 – 1:30y.h – Henllan
Dydd Sadwrn 17/07 – 2 – 4y.h – Tregaron
Fideo Creative Cove.