Cyhoeddodd Grŵp Meddygol Bro Pedr, Llanbed eu bod yn paratoi ar gyfer brechiadau Covid a bod staff yn cael hyfforddiant ychwanegol ar hyn o bryd.
Yn ôl y datganiad heddiw, dywedwyd “Rydym wedi archebu cyflenwad cyntaf o’r brechlynnau AstraZeneca ac yn aros amdanynt. Rydym yn hyderus felly y gallwn ddechrau brechu o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.”
Yn anffodus, gan fod cap ar faint o frechlynnau y gellir eu harchebu, bydd y stoc yn gyfyngedig iawn i ddechrau, fodd bynnag, dywedir y bydd y niferoedd yn cynyddu’n wythnosol o hyn ymlaen.
Rhoddir blaenoriaeth ar gyfer brechu i’r grŵp canlynol o gleifion:
1. Trigolion mewn cartref gofal ar gyfer oedolion hŷn a’u gofalwyr.
2. Pawb sy’n 80 oed a hŷn a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Cyn gynted ag y bydd cyflenwadau wedi cyrraedd a bod dyddiadau clinigau wedi eu trefnu, cysylltir â chleifion sy’n 80 oed neu’n hŷn i drefnu apwyntiad.
Pwysleisia Sian Jones, Rheolwaig Practis, “Bydd angen i bob claf gydsynio i gael y brechlyn, felly efallai y byddai’n werth cael sgwrs gydag aelodau’r teulu cyn derbyn galwad ffôn gan y feddyfa. Efallai y bydd galwad ffôn ar fyr rybudd i fynd i apwyntiad, felly gwnewch yn siŵr bod trefniadau teithio, os oes angen, wedi cael eu cytuno gyda theulu a ffrindiau ymlaen llaw.”
Bydd clinigau brechu Covid yn cael eu cynnal yn debyg i’r clinigau brechu rhag y ffliw, a chynhelir y rhain ym Meddygfa Taliesin, Llanbed a Meddygfa Brynmeddyg, Llanybydder.
Rhaid i bob claf gofio, oherwydd bod apwyntiadau meddygon teulu a nyrsys yn cael eu dyrannu i glinigau brechu Covid, yr effeithir ar argaeledd apwyntiadau arferol. Felly rhoddir blaenoriaeth i broblemau brys a brechiadau Covid hyd y gellir rhagweld.
Ychwanega’r datganiad “Rydym yn teimlo’n gyffrous i fod yn un o’r meddygfeydd cyntaf yng Ngheredigion i fod yn derbyn brechlynnau Covid ac yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn sicrhau bod pob claf sy’n gymwys yn cael ei frechu (yn nhrefn grŵp blaenoriaeth) cyn gynted â phosibl.”
Yn y cyfamser, y neges yw i aros gartref tra bod modd, cadw bellter cymdeithasol bob amser, gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus a golchi dwylo yn rheolaidd.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ac atebion i gwestiynau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.