Brechiadau COVID-19 ar gael yn Llanybydder yr wythnos hon

Bydd y fan brechu symudol yn Maes Parcio Teras Yr Orsaf rhwng dydd Iau 15 a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

gan Siwan Richards

Bydd fan brechu symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi’i lleoli yn ym Maes Parcio Teras Yr Orsaf, Llanybydder rhwng dydd Iau 15 a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf. Bydd y fan ar agor rhwng 11.00am a 7.00pm.

Nid oes angen cysylltu â’r bwrdd iechyd i drefnu apwyntiad. Bydd y fan frechu yn rhoi’r brechlyn i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn sy’n gofyn am ddos gyntaf neu ail ddos (Moderna a AstraZeneca Rhydychen). Gellir rhoi ail ddosau 8 wythnos ar ôl y dos cyntaf.

Mae’r gwasanaeth tân yn darparu un o’i gerbydau a bydd aelodau’r tîm yn bresennol i roi cyngor diogelwch cymunedol cyffredinol i’r cyhoedd, gan gynnwys am ddiogelwch yn y cartref.

Mae dros 500 o frechlynnau wedi’u rhoi hyd yma gan ddefnyddio’r fan brechu symudol mewn lleoliadau yn Cross Hands a Doc Penfro.